iasau dychryn yn rhedeg drwyddo. Arhosai'r lleill hefyd yn ofni tynnu eu hanadl yn y cysgodion tywyll.
"A—a—a!" gwaeddai Leisa drachefn.
"Leisa! gwedwch beth sy'n bod ?" meddai Gwladus, gan gydio yn ei braich, "neu dyma finnau'n gweiddi !" "O dier! O dier!" ebe Leisa, gan dynnu ei hanadl ati, "dyna ofan ges i!"
"Do's dim eisiau i chwi weyd hynny!" atebai Gwladus dipyn yn fyr. "Ag 'rych chi wedi hala ofan arnom ninne hefyd. Beth o'dd yn bod?"
"Demshgyn ar froga nes i!" dywedai Leisa; "Ac yn 'y ngwir i, 'dallwn i byth peidio 'sgrechen wrth i glywed e dan 'y nhraed i!"
"Dowch chi, 'ngeneth i!" ebe Robin yn dadol. "Broga oedd yna, aie? Rhyfedd mor rhwydd y dychrynir y genethod! ac, ond eu dychrynu, gwaeddant, ysgrechant yn groch!" O'm rhan i fy hun, nid yn fynych y teimlaf arswyd ond pan welaf alluoedd anian yn terfysgu ! Ond rhaid i mi gyfaddef nad da gennyf weled llyffant na broga,—yn wir, temtir fii regu pan welaf eu cyrff gwenwynllyd! Ie, broga a bair regu. Nid yw'r gynghanedd yn hollawl uniawn, ond mae'r meddylrych yn gywir.—Ond atolwg, hogen, nac ysgrecha mwyach, neu fe derfi'r eos â'th dyrfau.' Ymlaen, felly, gymdeithion, i Le'r Gromlech, mor fuan ag y mae modd.
'Awn yn ffyddlawn ein ffydd
I lannerch hyfryd, lonydd.'
Cyn pen hir amser cyrhaeddwyd y man lle gorweddai hen Gromlech lwyd, fwsoglyd, a phenderfynwyd aros yno hyd ganol nos.
"Faint o amser sy cyn iddi hi ddechrau ?" gofynnai Leisa yn isel, fel pe bai yn disgwyl cantores mewn cyngerdd.
"Mae hi obeutu dechre, gwlei !" ebe'r ciwrat, gan dynnu ei oriawr allan," "mae hi 'nawr yn ugen myned rhynti a douddeg." "Wel, 'rwy i wedi blino, ta beth!" meddai Leisa, gan eistedd ar garreg uchaf y Gromlech.
"Ferch y fall!" gwaeddai Robin, a'i lygaid yn melltenu yn