Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Galarus goffadwriaeth am y ddamwain echrydus a gymeroedd le yn Nglofa Carnant, Cwmaman, Sir Gaerfyrddin, boreu dydd Mercher, Ionawr 16eg, 1884, (gan) Hugh Roberts (Pererin Môn) (IA wg35-2-5422).pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

David Roberts, gwr priod a phump o blant, Brynaman; Thomas Bevan, gwr priod a thri o blant, Cwmaman; Wm. Lake, gwr priod a tri o blant, Cross Inn; Thomas Michael, priod, Cwmaman; John Evan Jones, sengl, Cwmaman; John D. James, sengl, Cwmaman; Evan Roberts, bachgenyn, Brynaman; Thos. Roberts, bachgenyn, Brynaman; Daniel Kees, bachgenyn, Cwmaman; a Edward Morgan, bachgenyn, Brynaman.

Ffyrdd Duw sydd dan y ddaear,
Ac yn y dyfnder mawr,
Uwch dinad ac amgyffred
Trigolion daear lawr;
Ie, trefn fawr Ragluniaeth
A'i odiaeth droion cudd,
I bawb o'r teulu dynol
Yn berffaith ddirgel sydd.

Mae dyn yn fod cyfrifol—
Rhaid rhoddi cyfrif oll
O flaen y Barnwr Cyfiawn,
Heb un i fyn'd ar goll;
Mewn awr pryd na feddyliom
Cawn deimlo dirfawr boen,