CRIST A MOSES.
Y ddeddf a ddaeth trwy Moses draw,
A roes y dwyfol Ior o'i law;
Eich llygaid trowch, eneidiau trist,
I wel'd y cariad rhad a'r hedd,
Gwirionedd hefyd yr un wedd,
A'r gras a ddaeth trwy Iesu Grist.
Eu gwaith a'u swyddau'n Eglwys Dduw,
Y'nt hefyd o wahanol ryw;
Fel gwas ufuddol, Moses fu,
Ond Crist yn Fab goruchel iawn,
A chanddo mae awdurdod lawn,
Efe sydd arglwydd ar ei dŷ.
Gan hyny rho'wn ufudd-dod gwiw,
I'w lân orch'mynion o bob rhyw,
Oblegyd teilwng ydyw Ef;
Boed moliant, ac addoliad byth,
I'r Oen a laddwyd yn ddilyth,
Trwy'r ddaear lawr yn awr a'r nef.
I'r hwn ddirmygai'r ddeddt ar g'oedd,
Marwolaeth ddidrugaredd oedd;
Ond trymach damnedigaeth fydd
I'r hwn ddirmygo wir Fab Duw,
Ac aberth y cyfamod gwiw;
Pan ddelo barn y tanllyd ddydd.
CRIST AC ADDA.
Trwy gamwedd un aeth dynolryw,
Tan gyfiawn farn digofaint Duw;
Yn Adda meirw y'm i gyd,
Er cyn ymddangos yn y byd.
Ond os trwy anufudd-dod un,
Y daeth marwolaeth ar bob dyn;
Trwy Un, a'i bur ufuddol waith,
Daeth bywyd o gamweddau maith.