Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gardd Eifion.djvu/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BYWGRAFFIAD.

GANWYD y bardd coeth a llednais hwn yn y Bettws Fawr, plwyf Llanystumdwy, yn nghwmwd. Eifionydd, sir Gaernarfon, yn 1767. Brodor o sir Feirionydd ydoedd William Williams, ei dad; ac efe oedd perchenog y Bettws Fawr, yr hwn le yn nghwrs amser a ddaeth i feddiant y Bardd Du. Yn yr amaethdy gwledig hwnw, heb ddim yn tori ar dawelwch unffurfiol y lle ond sibrwd didaw yr afon Ddwyfach gerllaw, y treuliodd yn ddedwydd rychwant einioes hyd o fewn ychydig flynyddau i'w therfyn, pan y symudodd i'r Monachdy, yn yr un gymydogaeth. Trwyddo ef, daeth y Bettws Fawr yn adnabyddus i feirdd a llenorion, ac yn gyrchle gwyr o nod; ac i'r ffaith fod Robert ab Gwilym wedi bod yn cyfaneddu yn y lle y rhaid cyfrif am enwogrwydd y Bettws Fawr rhagor ffermdai dinod eraill Eifionydd. Palph o ddyn cadarn gwladaidd ydoedd Robert Williams, ac ni buasai dyeithr ddyn byth yn meddwl oddiwrth ei olwg allanol fod yr awen yn gwneud ei nhyth mewn adeilad mor annhebyg. Ond dadblygai cydnabyddiaeth âg ef, yn y llanerch fynyddig hono, a than y cnwd annhrefnus hwnw o wallt, athrylith o radd uchel iawn. Yr oedd y Bardd Du yn hynafiaethydd medrus, ac wedi efrydu llawer ar y pwnc hwnw, yn arbenig yn ei ystyr leol; ac yr oedd ar ei fferm yn yr amser hwnw gryn lawer o adfeilion yr hen Gymry fu.