Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gardd Eifion.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ADGYFODIAD Y SAINT.

Cysegra ni i'th Yspryd Glân,
Dod dduwiol anian ynom;
Ac yn dy wyddfod, ar dy wedd,
Tu draw i'r bedd y byddom.

Pan bydro'r corff yn lludw mân,
Dan oerllyd geulan angau,
Ei ranau oll—yr Ion a wyl,
Yn anwyl ei ronynau.

Un llwchyn bach yn ol ni bydd,
Ar foreu ddydd y cyfri';
Pan fyddo holl dylwythau'r byd
O'r bedd yn cyd gyfodi.

O! pa mor wynfydedig fydd,
Y rhai mewn ffydd a hunant,
Mewn nerth, addurnir hwynt yn ddwys,
I gynal pwys gogoniant.

Er myn'd i lawr yn wael eu gwedd,
I gryd y bedd llygredig,
Mewn undeb pur â Christ, eu pen,
Cânt godi'n fendigedig.

Y corff a'r enaid—un a fydd,
Y ddau dragywydd gymhar,
Mewn undeb tawel byddant hwy,
Nid angau mwy a'u hysgar.

Mor ogoneddus fydd y saint
Yn meddu'r fraint o newydd,
A gollwyd gynt yn Eden ardd,
Sef delw hardd eu Harglwydd.


CAN FUDDDUGOL Y SAINT.

Gogoniant byth i'r anwyl Un
A dynodd golyn angau;
Ysbeiliodd uffern fawr ei grym,
A rhyddion ydym ninau.