Yr oedd hefyd yn gerddor deallgar, a'i athraw yn y gelfyddyd hono ydoedd Mr J. R. Jones, o Ramoth, fel y dywed y bardd yn ei farwnad i'r gwr hwnw. Darllenasai lawer ar ganghenau buddiol eraill o wybodaeth; ac nid oedd odid i bwnc nad oedd efe i rhyw raddau yn gydnabyddus âg ef, ac yn alluog i syniaw yn gywir am dano. Bedyddiwr ydoedd ar y pwnc o fedydd, ac yr oedd yn bleidiol iawn i'r Bedyddwyr Neillduol, prif ddyn yr hon blaid y pryd hwnw yn Nghymru ydoedd Jones o Ramoth; ond nid oedd efe yn aelod gydag unrhyw blaid grefyddol. Dywed Caledfryn yn y traithawd ar ei Athrylith a'i Weithiau yn y Traethodydd am 1852, t.d. 326, wrth son am rai o annghysonderau y bardd fel crefyddwr:—"Byddai pregethwyr o bob enwadau yn galw heibio iddo, a chaent groesaw mawr ganddo; ond anfynych yr elai i wrandaw ei gyfeillion penaf, os na fyddent yn Fedyddwyr; a phan elai i wrandaw, byddai yn gwneud hyny yn fwy o gymwynas i'r llefarwr, ac yn fwy fel beirniad, nag fel pechadur ag arno eisiau y pethau a gynygid iddo ei hunan. Helpu y pregethwr i drwsio y bregeth ar ol darfod oedd oreu ganddo, na derbyn ac ymborthi ar y pethau a glywai ei hunan. Goludog oedd, ac nid oedd arno eisiau dim, yn yr ystyr yma. Efe oedd cynathraw Dewi Wyn, a thrwy fod y ddau yn byw yn ymyl eu gilydd, yr oedd cryn undeb yn eu golygiadau a'u gweithrediadau. Digiodd y ddau tua'r un amser wrth yr eisteddfodau; ac ni chafwyd ohyny allan na'u gwaith na'u presenoldeb na'u geirda i'r un o'r cyfryw gyfarfodydd. Taflwyd y Bardd Du oddiar ei echel oherwydd rhoddi y wobr am englyn y "Delyn" i Walter Mechain yn Nghaerfyrddin, yn 1819; a chanodd y Bardd Gwyn yn iach iddynt am byth ar ol i'r Dryw gael y wobr
Tudalen:Gardd Eifion.djvu/4
Gwedd