yn Eisteddfod Dinbych oddeutu yr un amser am ei awdl ar "Elusengarwch." Yr oedd y ddau yn Fedyddwyr, a'r ddau onid gwrandawyr yn unig am yspaid hirfaith, a bu ganddynt ran flaenllaw eu dau yn nghodiad addoldy yn yr ardal, a adwaenid wrth yr enw, "Capel y Beirdd." Hyd y gwyddom, dyna yr unig dro yr ymwregysodd y y Bardd Du i faes yr ymrysonfa farddonol; a bu farw heb yr un ariandlws ar ei elw. Ni flaenddodir un dernyn o'i waith â'r geiriau, "Buddugol" mewn unrhyw Eisteddfod; ond er hyny, y mae llysiau Gardd Eifion mor beraidd eu blas, a'i blodeu mor swynol eu harogl, ac mor brydferth eu gwisg, ag odid i ddim a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg. Un o'r pethau hynotaf yn yr amaeth-fardd diniwaid hwn ydoedd y syniadau uchel oedd ganddo am ei waith ei hun. Byddai yn ymylu ar wynfydedd wrth ei adrodd a'i ganmol ei hunan; ac ychydig groesaw gai dyeithr-ddyn yn y Bettws Fawr os nad allai fawrygu barddoniaeth gwr y ty. Yn y Brython iv. 112, adrodda Talhaiarn am wr o'r enw Roberts, Dolymelynllyn, yn myned i edrych am y Bardd, ac ar ol cyfarch gwell, gwelai yn union mai rhyw groesaw lled sychlyd oedd yno iddo. Cofiodd, pa fodd bynag, fod ei westteiwr yn hoff o ganmoliaeth, a dechreuodd chwareu ar y nwyd hono, ac ebe fe wrtho, "Wyddoch chwi beth, Rhobert Williams, englyn rhagorol ydyw hwnw o'ch gwaith chwi." "P'run ydyw hwnw, y gwr dierth?" ebai y Bardd. "Hwn," meddai Roberts,
"Paham y gwneir cam a'r cymod—neu'r Iawn
A'i rinwedd tros bechod?
Dyweder maint y Duwdod—
Yr un faint yw'r Iawn i fod."
Ac ebai y Bardd, "Wel, yn wir, y mae o'n dlws! —dywelwch o eto, da chwi" a'r dyn yn cydsynio, nes oedd yr awdwr wedi ei lyncu i fynu gan ei