Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gardd Eifion.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swynion a'i brydferthwch, ac yn galw ar y wraig, "Gwnewch gwpanaid o dê o thipyn o doast i'r gwr dierth, yn union deg—dywedwch yr englyn unwaith eto, da chwi." Roberts yn ei ddweyd drosodd a throsodd drachefn. A fu erioed well engraifft o ddiniweidrwydd. Byddai ambell un yn gwneud camgymeriad mawr gyda golwg ar y ddor i serch y bardd. "Mae genym ninau yn sir Ddinbych acw fardd da iawn," ebai porthmon wrtho rhyw dro. "Pwy ydyw hwnw, y gwr dierth?" ebai yntau. "Robert Dafis o Nantglyn," ebai'r. porthmon. Ond atehodd y Bardd gyda dau ansoddair cryf, na waeth heb eu hail grybwyll, ond dangosent pa mor ddwfn ydoedd ei ddigofaint am y camwri a oddefodd ei gyfaill Dewi Wyn yn Eisteddfod Dinbych mewn rhan oddiar law Bardd Nantglyn. Torwyd cryn lawer ar ei yspryd at farddoni pan fu farw ei anwyl ac unig eneth, Jane Elizabeth, yr hon oedd yn ferch ieuanc 17 oed, brydferth, synwyrol, a dysgedig. Plentyn ei henaint ydoedd, canys bu efe yn hir iawn yn dwyn y teitl o "Hen Lanc y Bettws Farw," a pharodd y son am ei briodas gryn syndod yn yr ardaloedd. Yr oedd ei marwolaeth yn ergyd trwm iddo—nis gallai byth ddal clywed ei henw heb i'w lygaid lenwi o ddagrau, ac y mae ei farwnad iddi yn un o'i awdlau mwyaf teimladol yn yr iaith. Y mae coethder a dillynder anarferol yn nodweddu ei holl gyfansoddiadau, ac ystyrid ef yn bencampwr am englyn: ac nid heb achos, fel y prawf ei englynion i "Grist gerbron Pilat," "Pilat gerbron Crist," yr "Iawn," a'i feddargraffiadau tarawgar a a dysgrifiadol. Yn ei awdl farwnad i Jones o Ramoth, ceir meddyliau hynod o dlysion, ac arddengys lewder y llew pan yn canmol dyn oedd mor anmhoblogaidd gyda'r lluaws. Nodweddir ei ganiadau digynghanedd gan yr un dillynder, a