Caiff adael pob rhyw ofid a dichell, llid bradychus,
A'i ddwyn o dir caethiwed i nodded ogoneddus.
Pan ddel o'r bedd dinystriol, a'r môr a'u lluoedd marwol,
O! mor gysurol fydd y saint;
Gorphwysant mewn tangnefedd yn Sion, union anedd,
Anwylaf rinwedd nefol fraint;
O rif y dyrfa rasol, a ddygir yn fuddugol,
I feddu'r bythol fyd, uwch ben,
O gyrhaedd pob gofidiau, tu draw i'r bedd ac angau,
B'o chwi a minau'n iach, Amen.
Nefolion mwynion ymunant—eu llef,
A llafar y canant;
Emynau o'u genau gânt,
A'u dwylau a gydeiliant.
CAROL PLYGAIN.
Mesur,—" Hyfrydwch y brenin Sior."
Dihunwch, weithion, garedigion,
Yn wiwlon gyda'r wawr,
Dadseiniodd hyfryd lef
Telynau'r nef i lawr;
Fe gafwyd arwydd fod llawenydd
O newydd yn y nef,
Am eni'r Iesu mwyn,
Dro addfwyn yn y dref;
Angylion a ganasant
Ogoniant, am y gwaith,
A'u glân, blygeiniol, gywrain garol
Mewn nefol unol iaith;
Bugeiliaid llon, a ddaeth ger bron,
A'r doethion, yn min dydd,
Gan gael y Baban gwych,
Hoff wrthrych cywir ffydd;