Tudalen:Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr, Cyfres y Fil.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mor bell ac y gallwn farnu,—oddiwrth lenyddiaeth, enwau lleoedd, a'r defnydd wneir ar lafar o eiriau'n awr,—yr oedd pob gair sydd yn y Geiriadur hwn ar arfer yn 1588. Felly nid yw'r llyfr bychan hwn yn rhoddi cymorth i ddangos fel y tyfodd yr iaith er cyfnod cyfieithu'r Beibl.

Edrychodd yr Athraw J. Morris Jones drwy y rhan fwyaf o'r proflenni. Achubodd fi o amryw byllau, ychwanegodd rai geiriau, a bu ei gyngor yn dra gwerthfawr. Ond na ddalier ef yn gydgyfrifol am un gwall; gallai fod yn y llyfr wallau na welodd ef, a hwyrach na ddilynwyd ei gyngor bob amser.

Gwnes fy ngoreu, ond gwn fod y llyfr yn amherffaith. A gaf fi ofyn i efrydwyr hanes a llenyddiaeth Cymru yn y canol oesoedd roddi prawf arno, a gwneyd rhestrau o eiriau a dyfyniadau, fel y gallaf ei wella?

OWEN M. EDWARDS.

Coleg Lincoln, Rhydychen. Ionawr 30, 1905.