Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Neheubarth Cymru, gan Mons. Rio, y boneddwr o Lydaw, sef, Ni bu farw Arthur," gan arwyddo, ysgatfydd, fod ei anian yn hanfodi o hyd yn mysg y Cymry. Ar y cyfan, y mae yn amlwg fod clodusrwydd Arthur yn gynwysedig gan mwyaf yn ei lewder a'i lwyddiant fel rhyfelwr; eto hynodir ef am ansoddau ereill hefyd. Fel y crybwyllwyd eisoes, ymddengys ei fod yn gefnogol i Gristionogrwydd, yn ol siampl ragorol ei dad; a dywedir hefyd y byddai weithiau yn cymeryd y duwiol esgob Dyfrig gydag ef i'r rhyfel, fel y byddai iddo gynghori y milwyr. A chyn dybenu cofiant Arthur, rhaid i ni beidio anghofio ei fod hefyd, nid yn unig yn noddwr i feirdd, ond heblaw hyny yn cael ei gyfrif yn un o'r frawdoliaeth hono ei hunan, er nad oedd ei amgylchiadau helbulus yn caniatau iddo nemawr o hamdden i goleddu ei awen; ac nid oes ar gael ond un dernyn bychan o'i gyfansoddiad, sef y Triban canlynol, yr hwn ydoedd un o ddewisedig fesurau yr oes hono:—

"Sefynt fy nhri chadfarchawg,
Mael Hir a Llur Lluyddawg,
A cholofn Cymru, Caradawg."


ARTHWYS oedd fab Cenan ab Coel, tywysog y Brythoniaid Gogleddol, yr hwn oedd yn byw yn nghanol y bumed ganrif.


ARTHWYS, a elwir hefyd Adras, mab Meurig ab Tewdrig, brenin Morganwg. Dylynodd ei dad yn llywodraeth Gwent a Morganwg, tua'r flwyddyn 575. Oddiwrth debygolrwydd ei enw i'r eiddo Arthur, meddyliwyd yn gamsyniol mai yr un ydoedd a'r gwr enwog hwnw. Yr oedd yn dad i Morgan Mwynfawr, yr hwn a'i canlynodd i'r llywyddiaeth fel brenin, ac oddiwrth yr hwn y mae sir Forganwg wedi cymeryd ei henw. Y mae copi o roddiad tiroedd gan y brenin Athrwys i eglwys Llandaf wedi ei gadw yn Llyfr Llandaf, tudal. 411.


ARWYSTLI (GLOFF,) oedd fab Seithenin, a sefydlodd eglwys yn Nghymru tua chanol y chweched ganrif. Yr oedd yn aelod o Bangor Enlli, neu Goleg Ynys Enlli.


ARWYSTLI (HEN,) yn ol cofnodiadau Cymreig, oedd un o'r pedwar dysgawdwyr y rhai a ddaethant gyda Bran ab Llur o Rufain i bregethu Cristionogaeth i'r Brythoniaid, tua'r flwyddyn 70. Unolir ef gan rai ag Aristobulus, yr hwn y sonir am dano yn y Llythyr at y Rhufeiniaid, xvi. 10. Y mae hefyd yn nodedig, yn ol y merthyrdraeth Groegaidd a goffeir gan archesgob Usher, i Aristobulus gael ei ordeinio gan Paul fel gweinidog i'r Brythoniaid. Dywed Cressy hefyd i Aristobulus, dysgybl i Pedr a Phaul yn Rhufain, gael ei anfon fel cenad at y Brythoniaid, a'i fod y gweinidog cyntaf yn Mhrydain; iddo farw yn Glastonbury, yn y flwyddyn 90, a bod dydd ei goffadwriaeth yn cael ei gadw yn yr eglwys Mawrth 15ed. (Rees's Welsh Saints.)


ASAPH oedd fab Sawyl Benuchel, mab Pabo o Gwenaseth, merch Rhufon Rhufoniog. Ganwyd ef yn Ngogledd Cymru. Yr oedd yn ddysgybl i Cyndeyrn o Kentigern, yr hwn oedd wedi ffurfio coleg yn Llanelwy, yn 545, pan roddodd y diweddaf i fyny yr esgobaeth hon, a dychwelyd i Ogledd Brydain, yn 560. Asaph, yr hwn oedd enwog am ei rinweddau a'i ddysgeidiaeth, a ddewiswyd i'w ganlyn yn yr esgobaeth ac yn llywyddiaeth y coleg. Yr oedd yn bregethwr diwyd. Arferai yn aml i ddyweyd," Y rhai a wrthsafant bregethiad gair Duw, a warafunant iechydwriaeth dynion." Efe a ysgrifenodd ordinhadau ei eglwys, Bywyd St. Kentigern, a rhai gweithiau ereill. Bu farw Mai 1af, 596. Ar gylchwyl y cyfryw ddydd byddai ffair gynt yn cael ei chynal yn y dref. Cafodd ei gladdu yn ei eglwys gadeiriol ei hun. Amgylchiad a gyfranodd yn helaeth tuag at godi awydd yn meddyliau y bobl am gadw yr esgobaeth yno. Ar ol 'ei farwolaeth, cafodd ei galw ar ei enw, St. Asaph, er mai yr enw gwreiddiol a ddefnyddir yn yr iaith Gymreig. Llanasa hefyd yn sir Flint a sylfaenwyd ganddo ef.


ASCLEPIODOTUS, iarll Cornwal, a 74ain brenin Prydain, yn ol Brut Cymreig Tysilio. Dyrchafwyd ef i'r orsedd gan y Brythoniaid, y rhai a dorasant allan yn wrthwynebus, yn erbyn Alectus, tua'r flwyddyn O.C. 302, o dan ei lywyddiaeth aethant i fyny i Lundain. Alectus ar y pryd y dynesasant at y ddinas oedd yn aberthu i'r duwiau; ar hyn efe a dorodd i fyny y ddefod, gan fyned allan i'w gwrthwynebu. Ar ol ymosodiad creulon, gyrwyd ei fyddinoedd yn eu holau, ac efe ei hun, yn nghyd a miloedd lawer, a laddwyd. Livius Gallus, mewn canlyniad, a gauodd y pyrth gan ymdrechu achub y lle; ond Asclepiodotus a'r Brythoniaid a'u hamgauasant, ac anfonasant adref am fwy o filwyr; hwy a'u cymerasant drwy ruthr, pan gafodd yr holl Rhufeiniaid eu rhoddi i'r cleddyf. Drwy yr amgylchiad hwn, cafodd Asclepiodotus ei sicrhau yn y llywodraeth, ac yr oedd wedi teyrnasu deng mlynedd pan gododd Coel Coedelog, iarll Caerloyw, i fyny mewn arfau i'w erbyn, ac a'i lladdodd mewn brwydr.


ASER oedd fynach dysgedig o Dyddewi. Yn ol y Llinach Gymreig, dywedir ei fod yn fab Tudwal, mab Rhodri Mawr. Yr oedd cymaint o son am ei ddysgeidiaeth fel y cafodd ei wahodd i lys y brenin Alfred, tua'r flwyddyn 880; a'r rhai oeddynt wedi cael eu hanfon i'w gyrchu, a'i dygasant ef o Dyddewi at y brenin, yr hwn oedd ar y pryd yn Dean, yn Wiltshire. Alfred, nid yn unig a'i derbyniodd ef yn garedig, ond a'i hanogai yn fawr i adael y lle yr oedd efe, a chymeryd ei drigfan yn barhaus gydag ef. Y cynyg hwn Aser a'i gwrthodai yn wylaidd, gan sylwi y buasai yn warth iddo ef adael lle yr oedd wedi cael ei ddwyn i fyny ynddo, a'i ordeinio i'r offeiriadaeth er mwyn cael dyrchafiad mewn lle arall. Y brenin, mewn canlyniad, a ddeisyfodd arno i ranu ei amser, a threulio chwe mis yn y llys, a'r chwech arall yn Nhyddewi. Ond ni wnai Aser gyduno hyd yn nod â hyn, hyd oni byddai wedi ymgynghori ag aelodau ei fynachdy. Efe, mewn canlyniad a droai allan am Dyddewi, ond yn Winchester efe a syrthiodd yn glaf, ac arosodd yno am dros flwyddyn. Wedi hyny efe a frysiodd adref, a derbyniodd