Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganiatad ei frodyr i gydsynio a'r cais, gan eu bod yn addaw iddynt eu hunain fawr leshad oddiwrth ffafr Alfred yn erbyn gormesiadau Hemeid, neu Hyfaidd, tywysog Dyfed, yn Neheudir Cymru, yr hwn yn aml a ysbeiliai y fynachlog a'r rhandir a berthynai i eglwys Tyddewi. Ý mynachod, modd bynag, a ddeisyfasant ar Aser i geisio caniatad Alfred i aros tri mis yn y llys ar yn ail a Thyddewi, yn hytrach na bod yn absenol am chwech mis yn nghyd. Ar ei ddychweliad, yr oedd y brenin mewn lle a elwir Leonaford; cafodd y derbyniad caredicaf ganddo; ac efe a arosodd am wyth mis, yn darllen gydag ef y fath lyfrau a feddai y brenin. Aser a ddywed i'r brenin ar nos Nadolig canlynol ei anrhegu ef â mynachlogydd Amesbury, yn Wiltshire, a Banuwille, ueu Banwell, yn Ngwlad-yr-haf, yn nghyd ag urddwisg sidan o werth mawr, a chymaint o arogldarth ag a fedrai dyn cryf ei gario. Yn fuan ar ol hyn, rhoddwyd eglwys Exeter iddo, ac ar amser diweddarach, esgobaeth Sherburn, yr hon, modd bynag, y dywedir iddo ei rhoddi fyny yn 883, er iddo yn barhaus gadw yr enw. O'r pryd hwnw hyd farwolaeth y brenin efe a bresenolai ei hun yn y llys. Efe a ysgrifenodd hanes bywyd y brenin Alfred, yn yr hwn y ceir hanes dyddorgol iawn o'r dull y treulient eu hamser gyda'u gilydd. Yr oedd hefyd archesgob yn Nhyddewi o'r enw Aser. Y mae rhai yn barnu mai yr un ydoedd ag Aser, mynach Tyddewi, ag Aser, esgob Sherburn. Dywed Caradog, o Lancarfan, yn ei Amseriedydd Cymreig, i Aser y Doeth, archesgob y Brythoniaid, farw yn y flwyddyn O.C. 906, ond y Sacsoniaid a ddyddiant ei farwolaeth yn 910.

AUBREY, PARCH. WILLIAM, LL.D., a anwyd yn y Cantref, sir Forganwg. Yr oedd yn gefnder i'r Dr. John Die. Cafodd ei addysg yn Ngholeg yr holl Saint, Rhydychain. Graddiwyd ef yn B.A. yn 1549. Gwnaed ef wedi hyny yn benaeth Neuadd New Inn, ac yn Gorph. 13eg, 1554, yn LL.D. Dyrchafwyd ef hefyd yn farnydd amddiffynol byddin y frenhines yn St. Quintens, yn Ffrainc, yn amddiffynydd yn y Court of Arches, yn un o Gynghorwyr Terfynau Cymru, yn Feistr yn y Sianseri, ac yn ganghellwr i archesgob Canterbury dros yr holl dalaeth. Yn olaf, cymerwyd ef yn nes at berson ei Mawrhydi Elizabeth, trwy ei godi yn feistr cwrt yr ymofynion wrth alwad. Dewiswyd ef hefyd yn un o broctoriaid y Brif Ysgol, yn 1593. Yr oedd yn meddu dysgeidiaeth ddofn, ac o bwyll neillduol, ac am hyny yn cael ei enwi yn anrhydeddus gan yr hanesydd Thuanus ac ereill. Efe a ysgrifenodd amryw bethau, yn enwedig ei lythyrau at Dr. Du—Du ar "Benarglwyddiaeth y Moroedd." Ond ni wyddys fod dim o'i eiddo wedi ei argraffu. Darfu i Syr F. Walsingham, un o weinidogion Elizabeth, ysgrifenu llythyr at Syr Edward Stradling, o Gastell St. Donets, yn hysbysu fod Dr. Aubrey yn bwriadau dyfod i sir Frycheiniog ar ymweliad, a'i fod yn bwriadu cael llawenydd gyda'i gyfeillion, ac yn deisyf cael carw ganddo erbyn hyny. ("O'r llys yn Nonesuch y 30ain o Orphenaf, 1584.") Ac y mae yntau ei hun yn anfon llythyr at Syr Edward yn gofyn yr un anrheg i'w fab, Edward Aubrey, erbyn y Sesiwn, gan ei fod yn sirydd; dyddiedig, Gorph. 1af, 1591. Bu farw Dr. Aubrey Gorph. 23ain, 1595, a chladdwyd ef yn eglwys St. Paul. (Wood's Fasti; Stradling's Correspondence.)


AUBREY RICHARD, yr hwn oedd o farn undodaidd, a ddewiswyd gan y gynulleidfa, neu o leiaf ryw nifer o bersonau yn y gynulleidfa a gyferfydd i addoli yn addoldy Heol-fawr, Abertawy, i fod yn gynorthwywri Mr. Richard Howells; yr hwn a fu yn gwasanaethu y gynulleidfa hono hyd nes iddo fethu gan henaint a methiant. Gan nad oedd y ddau yn cydweled am drefn iechydwriaeth, ymadawodd Mr. Howells, ac ymunodd fel aelod â'r Annibynwyr Seisnig, yn Heol-castell, Abertawy.


AUBREY, WILLIAM, A THOMAS, JOHN, oeddynt frodorion o blwyf Llanfyrnach, yn sir Frycheiniog, ac yn geraint i'r Dr. W. Aubrey. Bu y cyntaf yn ganghellwr Tyddewi, yn 1514, a'r ail wedi hyny. Yr oedd y trydydd o'r un teulu, ond yn byw yn East Percy, yn sir Wilts, ac a gynhorthwyodd Dugdale yn nghasglu ei "Monasticon." Yr oedd hefyd yn un o aelodau cyntaf y Royal Society, ac a gyhoeddodd amrywiol weithiau, yn mhlith y rhai yr oedd "Natural History of Surrey." Bu farw yn 1700. (Lewis's Topographical Dictionary.) Darfu i un arall, o'r un teulu, a'r un enw, gyhoeddi llyfr a elwir "Miscellanies upon Day, Fatality, Omens, Dreams, Knockings, Corpes Candles in Wales, &c. By John Aubrey. 1721."


AUBREY, WILLIAM, LL.D., ydoedd un o hynafiaid y teulu o'r cyfenw hwn, a ddaeth i Forganwg, gan ymsefydlu trwy briodas yn Llantryddyd. Mab y Dr. Aubrey hwn oedd y cyntaf a gafodd hawl yno. Disgynyddion oeddynt oddiwrth Sant Aubrey, o waed brenhinol Ffrainc, a ddaeth i Loegr gyda Gwilym y Gorchfygwr, yn 1066. Mab i hwnw oedd Syr Bernard Aubrey, a gynorthwyodd Bernard de Newmarch i ddarostwng y Cymry; a chafodd diroedd Abercynfig a Slough, fel ei ran o'r ysbail. Yr oedd y Dr. Aubrey hwn yn broffeswr y gyfraith yn Rhydychain, yn un o wyr Cyngor Terfynau Cymru, ac yn feistr yr ymofyniadau i'r Frenines Elizabeth. Burkes's Peerage and Baronetcy.)


BACH, mab Carwel, oedd benaeth, yr hwn a enciliodd i Ogledd Cymru yn y seithfed ganrif, a chyflwynodd derfyn ei oes i grefydd. Dywedir mai efe oedd sylfaenydd Eglwys Fach, yn sir Dinbych, ar lanau y Conwy; ac yn ol traddodiad y gymydogaeth, yr oedd