Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byd hwn yr oedd teyrnas ei Arglwydd, ac mai ynfydrwydd oedd i'r gwas ddysgwy! gwell triniaeth na'i arglwydd; ac efe a gafodd achos i ganu felly yn fynych—

"Ni fyn y ddaear ddim o honwyf;
Mi af bellach tua'r nef.
Yno mae ngharenydd goreu,
Yno'm dinas i a'm tref.
Llosged tân yn ulw'r ddaear,
Eto canaf fi fy nghainc,
Tra bo Mhrynwr mawr anwylaf
Draw yn eiriol ar y fainc."

Efe a deithiodd lawer yn ei oes fer i bregethu Crist wedi ei groeshoelio; am ba achos ei gelwid gan ei frodyr Eglwysig yn Fethodist, ac yr ymddygid ato yn dra angharedig gan ambell un o frodyr Doeg. Clywais wr cyfrifol o Ddyffryn Clwyd yn dywedyd iddo glywed yr hen bobl yn darlunio ei ymweliad A'r wlad hono ar un achlysur yn nghwmni un o hen weinidogion enwog y Deheudir, Jones, Llangan, efallai. Ar ddiwedd yr oedfa, yr oedd y bobl mewn mwynhad rhyfeddol—yn neidio ac yn moli Duw; ac yn eu mysg yr oedd yr offeiriad ieuanc, a'i wallt melyn wedi ei blethu megys cynffon laes ar ei gefn, yn ol arfer bonedd uchel-waed yr oes hono, yn mwynhau yn helaeth o'r unrhyw ysbryd gorfoleddus, gan ganu y penill hwnw:—

"Yn y rhyfel mi arosaf,
Yn y rhyfel mae fy lle;
Boed fy ngenau wrth y ddaear,
Boed fy llygaid tua'r ne';
Doed y goncwest pryd y delo,
Dysgwyl wrth fy Nuw a wnaf;
Nes o'r diwedd wel'd yn trengu'r
Pechod ydoedd bron a'm lladd.".

Fel yr oedd efe ar un achlysur yn pregethu yn Nghapel Crai, swydd Frycheiniog, yn haf 1783, ar Sabbath tra gwresog, a'r dyrfa yn lluosog iawn, teimlai ei nerth yn pallu yn dra annysgwyliadwy, a rhyw boen dyeithrol yn ymafael oddeutu ei ysgyfaint. Gan y gwres a'r lluosogrwydd dynion, efe a chwysodd yn ddirfawr wrth lefaru; ac y mae yn debyg iddo fod yn rhy esgeulus o hono ei hun ar ol yr oedfa, fel y cafodd anwyd trwm; o effeithiau yr hwn ni chafodd efe ymwared tra bu ar y ddaear. Efe a ymwelodd â'r lle hwnw unwaith ar ol y tro hwn, a dychwelai o'r daith hono yn dra llesg ac anhwylus. Cyrhaeddodd y noswaith gyntaf i dy gwr boneddig oedd yn gyfaill hoff iawn ganddo, ac yno y lletyodd. Y boneddwr sylwai fod ei beswch yn argoeli fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd yn ei gyfansoddiad; er hyny gobeithiai yr arbedid ef flynyddoedd law. er eto. Ond yn mhen ychydig ddyddiau ar ol iddo gyrhaedd adref, torodd gwythien o'i fewn, a phoerodd lawer iawn o waed; yr hyn oedd yn ei wanhau yn gyflym; a chyda hyny, yr oedd ei beswch yn parhau yn drwm iawn. Ei riaint hoff a gymerasant hyn yn argoel o berygl am fywyd eu serchus fab; ac yn ddiymdroi hwy a ymgynghorasant a meddyg deallus o'r Bontfaen, sef Mr. Bates, yr hwn a ymroddodd i ymweled ag ef, a gweini arno dros ysbaid o amser, gyda gofal a thiriondeb neillduol. Wrth weled fod ei glefyd yn tueddu at y darfodedigaeth, cynghorai y meddyg ar iddo gael ei symud dros ychydig amser i gymydogaeth y ffynonau brwd, gerllaw Caerodor; ac daith tuag yno, teimlai ei natur yn ymadnewyddu, fel y barnodd yn gryf iawn y byddai y daith hon yn foddion ei adferiad; a chryfhaodd ei dyb yn hynu wedi iddo aros yno rai dyddiau; ond ei gyfeillion mwyaf craffus a sylwent fod ei anadl yn byrhau, a'i aelodau yn gwanhau. Yn y cyfamser, yr oedd ei enaid yn mwynhau llawer o gymundeb a Duw; ac yr oedd yn amlwg ei fod ef yn addiedu i'r wlad well." Fel hyn yr adroddai yr hybarch D. Jones, Llangan, am ei brofiad yn yr adeg yma:—"Trodd ein hymddiddan un diwrnod yn dra neillduol ar bethau yn y wlad uwchlaw yr haul. Cefais le i farnu yn nghwrs ein cydymddiddan, nad gwr dyeithr oedd efe yn y wlad hono; ond ei fod yn dra chynefin mewn llawer rhan o honi; a'i fod yn cael rhyw hyfrydwch mawr wrth dderbyn newyddion rhagorol oddiyno yn fynych, Ioan xvi. 14. Dywedai lawer iawn wrthyf am iaith y wlad; a gwelais yn eglur fod ganddo sicrach gafael ar Arglwydd y wlad hono nag oedd gan yr hen gonsumsion arno ef. Ag wyneb siriol dywedai wrthyf fel y canlyn ar un amser:—Gwn ar brydiau beth yw mwynhau tawelwch sylweddol yn ngwyneb fy holl drueni!" "Efe a arosodd dros ysbaid ar yr adeg hon yn nhy ei chwaer yn Redcliffe- street, Caerodor; a thra yno, efe a ddechreuodd boeri gwaed drachefn; a dywedai wrth ei chwaer un diwrnod, "Yr ydwyf yn gweled yn awr nas gallaf bregethu byth mwyach; ond os myn Duw i mi wellau i ryw fesur, byddaf yn foddlawn i gadw drws yn ei dy ef." Ar adeg arall, dywedai wrth ei dad, "O fy nhad! pa fath amgyffred tlawd sydd genym am y nef!" Dymunai yn fynych ar i'w chwaer ddarllen y drydedd Salm wedi y ganfed iddo; ond pan y darllenai dros y bumed adnod, efe a ddywedai, "Ymataliwch, dyna ddigon, digon, digon!" Rai dyddiau cyn ei farwolaeth, dywedai y geiriau hyny wrth ei dad gyda rhyw ddwysder neillduol:" Diolch i Dduw am dengwaith a thriugain seithwaith," Math. xviii. 22. Ar ddiwrnod arall, gofynai i'w dad, "A glywsoch chwi am ryw un erioed a gollwyd wrth draed yr Arglwydd Iesu?" Ei dad a atebai yn ddibetrus, "Na ddo, erioed." "O'r goreu," ebe yntau, yua yr arosaf, a deued a ddelo o honwyf." Collodd ei leferydd rai oriau cyn marw; ac yn nghylch un o'r gloch prydnawn Sabbath, yr wythfed o Chwefror, yn y flwyddyn 1784, cafodd ei symud o fyd o bechod a thrueni, i fyd y purdeo a'r dedwyddwch, yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain o'i oed. Dygwyd ei gorff dros y mor i dy ei dad yn Aberddawen, a chladdwyd ef yn mynwent St. Athan, yn medd ei chwaer, Miss Alice Bassett, yr hon a fuasai farw yn mlodau ei hoedran, ychydig flynyddoedd o'i flaen ef, gan adael coffadwriaeth beraroglaidd ar ei hol. Pregethodd y Parch. D. Jones, Llangan, ar Math. xviii:22, y Sabbath ar ol ei gladdedigaeth; a Ioan ab Gwilym, neu John Williams, Morganwg, yr