Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

BEV gwr ieuanc arall o'r ardal hono, o'r enw Dafydd Jones, eu hordeinio yn Neuaddlwyd, i'r dyben hyny. Hwynt hwy oedd y cenadon Protest- anaidd cyntaf a diriasant yn Madagascar (bu yno genadau Pabaidd cyn hyny, y rhai ni wyddasunt). Hwy a adawsant Prydain yn niwedd y flwyddyn rag-grybwylledig, ac a gyraeddasant Mauritius yn Ebrill 1818; ac yn Awst, hwy a aethant drosodd i Madagascar, lle y cawsant dderbyniad croesawgar gan Fisatra, brenin Tamatave, yr hwn a ddan- fonodd ei fab, yn nghyd â deg neu ddeuddeg o blant atynt i'r ysgol. Yr oedd gan y plant alluoedd yn mhell tu hwnt i'w dysgwyliad; gan fod pawb yn dyweyd mai yr un peth fyddai iddynt, geisio dysgu creaduriaid di- reswm a'u dysgu hwy. Ar ol iddynt gael y fath dderbyniad caredig, dychwelasant i Mau- ritius, i ymofyn eu gwragedd a'u plant; y Parch. D. Jones a ddychwelodd o Mauritius gyntaf; ond cyn dychweliad y Parch. T. Bevan yn ol i Tamatave, gofynodd i un o'r masnachwyr pa fodd yr oedd Mr. Jones a'i deulu, yntau a atebodd, "O, y mae ei wraig a'i blentyn wedi eu claddu, ac y mae yntau ei hun yn dra annhebyg i fyw." Pan glywodd efe hyny, efe a wylodd yn hidl oddiyno í artref ei barchus a'i ofidus frawd. A phan aeth efe i'w olwg, ymafl- odd yn ei law, a dywedodd wrtho dan wylo, "Y mae fy ngwaith ar ben, ond chwi a fyddwch byw ac a Iwyddwch: ymwrolwch, a chymerwch galon." Mr. Jones a ddywedai, "Tewch, myfi sydd glaf, a chwithau sydd iach." Mr. Bevan a ddywedodd, "Chwi a gewch weled mai gwir a ddywedais, ac fe ddaw un arall i lanw fy lle." Bu farw Mr. Bevan yn mhen y tridiau; wraig a'i blentyn a fuont feirw ar ei ol yn fuan. A chyn diwedd Ionawr, 1819, yr oedd pump o'r chwech cenadon a'u teuluoedd wedi marw, a'r chweched yn glaf.

BEVAN, HOPCYN, a anwyd Mai 4ydd, 1765, mewn lle a elwir Cilfwnwr, yn mhlwyf Llangyfelach, yn sir Forganwg. Ei dad oedd Rees, mab i un Thomas Bevan, o'r Ffynon- lefrith, yn y plwyf uchod; a'i fam oedd Mary, merchi un Rees Thomas, Penysgallen, yn mwrdeisdref Casllwchwr, a'r hwn oedd yn uchelwr, ac un o fwrdeisiaid Casllwchwr. De- chreuai rhyw argraffiadau crefyddol ar ei fe- ddwl pan yn blentyn tra ieuanc, fel y byddai yu wylo gan ofn marw yn annuwiol, yn ei wely y nos am oriau, pan nad oedd namyn o dair bum mlwydd oed; a'i rieni yn ceisio ei ddiddanu goreu y gallent. Cafodd well addysg na nemawr o blant Cymru yn ei oes, gan iddo gael ei gadw mewn ysgolion er pan oedd tua phum mlwydd oed, hyd onid oedd tuag un ar bumtheg oed, pan y bu raid iddo ymroddi i gynhorthwyo ei fam yn arolygiad y fferm, gan fod ei dad wedi marw rai blynyddau cyn hyny. Yn y flwyddyn 1785, efe a briododd Mary, merch ieuangaf William Penry, o'r Gellywren- fawr, plwyf Llangyfelach; ac yn fuan wedi hyny dwysai argraffiadau crefyddol ar ei fe- ddwl, fel yr ymroddodd i deithio i wrando pa le bynag y caffai gyfleusdra. Yr oedd tua phum milltir o ffordd o'i gartref i'r Gopa Fach, y lle nesaf iddo ag yr oedd cyfeillach eglwysig gan y Trefnyddion Calfinaidd; ond yno yr aeth, a gwnaeth ei gartref yn mhlith yr ychy- dig bererinion oeddynt yno, lle y cafodd ei addysgu yn fanylach yn mhethau crefydd, ac y cafodd lawer o ymgeledd ysbrydol. Dechreu- odd bregethu tua'r flwyddyn 1792, ac yn 1811, pan neillduwyd brodyr gyntaf i gyflawn waith y weinidogaeth, yr oedd Hopcyn Bevan yr unig un yn sir Forganwg; a'r un flwyddyn, efe a anfonwyd yn genad dros gymdeithasfa y De- heudir i weini i'r achos crefyddol yn mysg y Cymry yn Llundain, ac yno y bu efe yn gwas- anaethu gyda llawer o gymeradwyaeth, o dde- chreu mis Tachwedd, 1811, hyd ganol Chwef- ror, 1812; ac ymddengys mai trwy ei anogaeth ef y tro hwn y penderfynodd y frawdoliaeth yn Llundain gael cymanfa flynyddol yno ar wyliau y Pasg. Efe a fu yn pregethu gyda diwyd. rwydd a chymeradwyaeth mawr yn myag ei frodyr dros haner can mlynedd. Bu farw Rhagfyr 29, 1839, yn 75 oed. Am y deuddeg mlynedd diweddaf o'i oes, yr oedd ei iechyd wedi anmharu yn fawr iawn, fel y byddai yn analluog am fisoedd weithiau i wneud dim yn gyhoeddus gyda gwaith yr Arglwydd; ond gyda golwg ar ei brofiad personol y blynydd- oedd hyn, efe a ddywedai:-" Da iawn i mi yn fy nghystudd presenol, fod yr Arglwydd Iesu wedi rhoddi ac amlygu ei hun dan yr enw a'r cymeriad o Fugail; y mae yn aml iawn yn felus ac yn hyfryd genyffyfyrio arno yn ngwei- nyddiad ei swydd fel bugail; Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragywyddol.' 'Y bugail da, yr hwn a roddodd ei einioes dros y defaid.' Da genyf ddyweyd gyda'r Salm- ydd, Yr Arglwydd yw fy mugail. Pan y mae fy meddyliau yn crwydro, yr ydwyf yn aml yn gwaeddi, Cais dy was.' • Dychwel fy enaid. Par i mi orwedd yn y porfeydd gwelltog, a thywys fi gerllaw y dyfroedd tawel.' Bydded dy fod di gyda mi wrth rodio glyn cysgod angeu, fel nad ofnwyf niwaid; ond y caffwyf fynediad helaeth i mewn i dragy. wyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist."-Gorphenaf, 16, 1838. H. BEVAN.

BEVAN, WILLIAM, a anwyd y 3ydd o Dachwedd, 1825, yn nhy ei dadcu, Evan Rowlands, yn Nantyglo. Gwanaidd o gyfan- soddiad ydoedd yn blentyn, ac nid llawer o nerth corfforol oedd ganddo wedi ei ddyfod yn ddyn. Yr oedd ynddo gryn awydd am lyfrau er pan ddysgodd ddarllen gyntaf, pan oedd tua saith neu wyth mlwydd oed. Cafodd bob cef- | nogaeth gan ei rieni yn mhob tuedd dda-mewn esiamplau, cynghorion, ysgolion dyddiol, man- teision crefyddol, ac arian i brynu llyfrau, &c. Nid dyweyd fyddai ei rieni ef wrtho, fel llawer o rieni pan geisiai ychydig at brynu llyfrau, "Darllen y llyfrau sydd genyt, nid wyt yn eu cofio yn rhy dda, mi wn," neu fygwyth taflu ei lyfrau i'r tan, fel y gwna rhai disyn- wyr, ac wrth hyny yn lladd y duedd at lyfrau, ac yn dra mynych at bob peth da yn gyffred- inol; a phan ddaw y bachgen i enill arian, a chan fod y duedd hono wedi ei lladd, caiff ei arian fyned i'r dafarn, neu feallai at bethau gwaeth na hyny. Byddai rhieni W. Bevan yn