Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

cenadwr Cristionogol; ac ymgysylltodd A
chenadaeth Patagonia, yr hon y bu ei diwedd
mor ofidus. Gan i atalfa gymeryd lle ar y
genadaeth efeng ylaidd hono, efe a gymerodd
fantais i orphen ei efrydaeth. Wedi ei or-
deiniad, cafodd guradaoth Knaresborough. Yr
oedd wedi bwriadu rhoi gwibdaith genadol,
ond darfu i farwolaeth ei ewythr ei adael yn
etifedd o Milton, ger Hwlffordd, yr hyn a
oedodd gyflawniad ei fwriad pryd hwnw,
ond a'i gwnaeth yn fwy galluog i gyflawni ei
amcan. Ymgysylltodd, mewn euw, à chym-
deithas genadol yr Eglwys Sefydledig; a phen-
derfynodd wario o bump i wyth gant o bunau
yn flynyddol o'i eiddo ei hun i'r gorchestwaith
fwriadodd. Yr oedd wedi rhoddi ei hun o
dan gyfarwyddyd y genadaeth, er ei fod yn
talu ei dreuliau ei hunan. Aeth i Jerusalem
yn gyntaf i ymgynghori â'r esgob Gobat, pan
yr ymwelodd a'r sefydliadau cenadol yn Syria,
Smyrna, Cairo, Mosul, a Trebizond, gan ddy-
chwelyd trwy Bagdad a Damascus i Jerusalem.
Ymwelodd â'r eglwysi Groegaidd, Armenaidd,
a Nestoraidd. Anfonai ei sylwadau gwerth-
fawr ar sefyllfa crefydd yn y lleoedd hyn, o
dro i dro, i swyddogion cymdeithas genadol
Eglwys Loegr, yn y rhai y rhoddai gaumol-
iaeth mawr i lafur y cenadau Americanaidd
yn mhlith y Tyrciaid. Gyda llawer o drafferth
y cafodd afael ar fedd y cenadwr Henry
Martin. Yn Mosul bu mor ffodus a chael ei
ddwyn i ymgydnabyddiaeth & Mr. Layard,
pan yn olrhain rhyfeddodau Nineve. Teithiai
yr holl wledydd hyn yn hollol ddiamddiffyn-
neb ond efe ei hunan a gwas, gydag ychydig
o gyfleusderau-heb gymaint & phabell-dim
ond ewrlid, ac ar hwnw y cysgai yn yr awyr
agored-heb arf, er eu bod yn nghanol cenedl
o ysbeilwyr. Ymddiriedai yn rhagluniaeth
Duw; a bu ddyogel. Dychwelodd i Loegr yn
Rhagfyr 1851, wedi bod yn absenol ddwy
flynedd a haner. Wedi aros beth amser ar ei
etifeddiaeth yn sir Benfro, lle yr ymbleserai
yn gweithio, gan fedi yd a chymynu coed, heb
ofalu am ddangos awdurdod meistr nac urddas
gweinidog yn yr Eglwys Wladol. Cafodd
bersoniaeth plwyf bychan gwledig Orton-
Loneuville. Ni bu yno yn hir cyn cael cynyg
ar esgobaeth Sierra Leone, yn Affrica; ac er
fod y lle hwnw yn wahanol iawn, a mwy
peryglus ei hinsawdd i Europiaid nag un lle y bu
ynddo eto, a llawer yn ei berswadio i ymwrthod
a'r anturiaeth, teimlai ef mai ei ddyledswydd
oedd myned. Cyn myned, efe a briodwyd â
Miss Catherine Butler, merch i Ddeon Peter-
borough. Wedi cyraedd Freetown, dechreuodd
o ddifrif ar ei waith. Gallasai rhai eglwysig
ei ystyried-ei weled mor anesgobawl, yn
gwisgo dillad ysgeifn, hollol aneglwysig, ie,
yn rholio y coed palmwydd, ac yn adgy weirio
cwch, fel y gallai ef a'i wraig gymeryd gwib-
fordeithiau cenadol. Nid oedd yn gofalu am
urddas, eithr gwneud gwaith esgob. Meddyl-
iodd ar y cyntaf fod yr hinsawdd yn well na'r
darluniad a wneid o honi, ac ni chymerodd
ddigon o ofal.
Cymerwyd ef a'i wraig yn
gleifion, a bu hi farw ychydig ddyddiau o'i
Haen. Dyoddefodd yn Gristionogol, a bu farw
BOW
Yr
yn fuddugoliaethus, yn Awst, 1858, yn 44
oed. (Memoir of Dr. Bowen, by his sister.)
BOWEN, DAVID, a anwyd mewn lle a
elwir Aberhenllan, yn mhlwyf Abernant,
sir Gaerfyrddin, yn flwyddyn 1770.
oedd ei dad ef yn glochydd yn llan y plwyf,
ond tueddwyd ei feddwl ef pan yn lled ieuanc
i ymuno â'r gangen eglwys berthynol i'r Trefn-
yddion Calfinaidd yn Meidrim, lle yr ydoedd
efe yn cyfaneddu ar y pryd, ac wedi profi
daioni yr Arglwydd i'w enaid ei hunan,
teimlai awydd cryf am i ereill gael profi yr un
peth; ac am hyny, ymroddodd yn fuan i ber-
swadio ei gymydogion i wneud defnydd o
drefn gras am eu bywyd. Yn Nghidweli,
debygid, y pregethodd efe yn gyhoeddus
v. 4, eu y
rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddiddenir.
Efe a neillduwyd i gyflawn waith y weinidog-
aeth yn y cyfundeb y perthynai iddo, yn
Nghymdeithasfa Aberteifi, yn y flwyddyn
1830; a bu yn ddiwyd a llafurus gyda phob
rhan o'r gwasanaeth cysegredig, mor bell ag y
goddefai ei iechyd, byd ddydd ei farwolaeth.
Parhaodd ei gystudd yn hir, yr hyn a ddyodd-
efodd ef yn amyneddgar; a phan gaffai
ychydig seibiant, ni fyddai yn segur.
Efe a
draddododd ei bregeth olaf yn Llandyfeilog,
Medi 24, 1848, oddiar Dat. ii. 19, "Mi a
adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th
wasanaeth, a'th ffydd, a'th amynedd di, a'th
weithredoedd; a bod y rhai diweddaf yn fwy
na'r rhai cyntaf." Ac efe a fu farw y 10fed
o'r mis canlynol, yn 78 mlwydd oed. Pre-
gethwyd yn ei angladd gan y Parch. D.
Humphreys, o Landyfeilog, ac efe a gladdwyd
yn mynwent St. Ismael. Er nad oedd Mr.
Bowen yn cael ei ystyried yn areithiwr hyawdl,
efe a draddodai y genadwri gyda dwysder a
difrifwch mawr, ac efallai nad oedd nemawr
yn rhagori arno mewn ffyddlondeb. Yr oedd
yn ddarllenydd dyfal, yn wr o ddeall da, ac yn
Gristion gloyw. Fel dyn, yr oedd o dymer
siriol a hawddgar, ac yn gyfaill o'r iawn ryw.
Yr oedd yn dra gofalus am yr eglwysi oddeutu
ei gartref; ac anfynych iawn y byddai ef yn
absenol o gyfarfodydd misol y sir. Gofynid ei
farn, gan amlaf, ar y pethau a fyddent dan
sylw yn nghynadleddau y cyfryw gyfarfodydd;
a byddai ei sylwadau yn gyffredin yn dra
phwrpasol. Mewn gair, gellir dyweyd am
dano ef yn ddibetrus, "Yr hyn a allodd hwn,
efe a'i gwnaeth." Cafodd ei ran o ofidiau y
bywyd hwn; ond parwyd i'r cyfan gydweithio
er daioni, er ei gymhwyso i fyned i wlad yn
yr hon ni chyferfydd a gofid na thrallod
mwyach. Cafodd fwynhad helaeth o'r "llaw-
enydd sydd gan gredu," yn ei gystudd di-
weddaf, & mynediad helaeth i fewn i lawenydd
ei Arglwydd, yn angeu.

BOWEN, CHARLES, ydoedd fab i Wil-
liam a Mary Bowen, Rhydargaeau, yn agos i
Gaerfyrddin. Efe a anwyd Hydref 26ain,
1823; ac fel yr oedd ei rieni yn grefyddol,
cafodd yntau ei feithrin ar fronau eglwys
Dduw o'i febyd. Efe a dderbyniwyd i gyflawn
aelodaeth pan yn bumtheng mlwydd oed; a
dechreuodd bregethu pan yn bedair blwydd