Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

Y MAE yn ffaith anwadadwy mai un o gangenau gwerthfawrocaf Hanesyddiaeth ydyw Bywgraffiaeth, yr hyn a gynwys gofnodau o hanes bywydau a chymeriadau dynion o enwogrwydd mewn ystyr wladol neu grefyddol, ac felly a ellir ddysgwyl fod yn dra adeiladol a defnyddiol i helaethu gwybodaeth o bethau perthynol i'n dedwyddwch, i gadarnhau ein ffydd yn athrawiaethau yr Efengyl, i helaethu ein cariad at Dduw a dyn, ac i lanw ein calonau â sel dros y gwirionedd. Llawer o hiliogaeth Gomer, wrth ystyried y pethau hyn, a hiraethent er ys blynyddoedd lawer am gael hanes rheolaidd a chywir o enwogion ein cenedl, o'r hyn yr ydym yn mhell ar ol y Saeson. Tra y mae ganddynt hwy gyfrolau mawrion ar y pwnc, nid oes genym ni ddim gwerth ei grybwyll braidd, er y gallwn ymffrostio mewn mwy o Wroniaid ao Enwogion nag unrhyw genedl adnabyddus yn ol ein rhif. Hiraethem er ys talm am weled rhyw un cymwys yn ymaflyd yn y gorchwyl angenrheidiol hwn, ond yn gwbl ofer; gan hyny, penderfynasom a'n holl egni i ymgymeryd a'r anturiaeth fawrbwys, mewn hyder y derbyniem gefnogaeth unfrydol ein cyd-genedl er cwblhau y gorchwyl yn anrhydeddus, fel y peth diweddaf o'n heiddo, mae'n debyg, eto y peth pwysicaf o lawer o ddim yr ymaflasom ynddo erioed. Wele y gyfrol gyntaf o'r gwaith yn awr ar ben, am yr hyn y teimlwn yn dra diolchgar i Dad y Trugareddau. Gan nad pa dderbyniad bynag a gaiff y gwaith hwn gan y genedl yn gyffredinol, gallwn ddyweyd yn hyf na ataliasom na thraul na llafur i'w wneuthur yn deilwng o sylw y dysgedig, y deallus, a'r diduedd yn mhlith y genedl. Nid ydym yn rhyfygu dywedyd nad oes llawer o anmherffeithrwydd yn y gwaith, ond gwnaethom ein goreu na byddai ynddo ddim ond sydd wirionedd. Y mae lluoedd i'w cael yn barod i chwilio beiau a nodi gwallau, ond nid oes un o fil yn barod i estyn unrhyw gynorthwy tuag at gael yr hanes yn fwy perffaith. Y mae yn flin genym na fuasem ugain neu ddeng mlynedd ar ugain yn gynt wedi ymroddi at y gorchwyl o gasglu hanesion gwahanol Enwogion yn nghyd, pan oedd ein natur yn fwy galluog i ymgynal o dan bwys y gwaith, a phan nad oedd henaint wedi anmharu eneidiau rhai, na'r bedd wedi llyncu cyrff y lleill, a allasent fod o fawr gymorth i ni i gasglu defnyddiau at hanes llawer un teilwng o gofnodiad cenedlaethol nad ellir bellach gael braidd ddim cymorth tuag at hyny oddiwrth neb. Dengys fawr ddoethineb mewn dyn yn ei waith yn casglu addysgiadau oddiwrth bob rhyw amgylchiad a golygfa a'i cyferfydd er cyfarwyddo ei lwybr ei hun yn briodol trwy daith yr anialwch. Y mae pob cangen o wybodaeth yn cynwys rhyw wersi cymwys i'w defnyddio; ond o'r holl wersi yn nghyd nid oes yr un yn fwy manteisiol na gwersi profiad yn hanes bywydau dynion, ac yn neillduol hanes dynion fyddont wedi rhagori ar ereill mewn pethau cyoeddus, gan y ceir ynddynt dueddiadau ymarferol y gwahanol egwyddorion a fyddant yn eu cymell i weithrediad. Y mae dynion i'w beio yn fawr pan yn esgeuluso talu sylw teilwng i'r cyfryw amgylchiadau er eu haddysg profiadol eu hunain yn llywodraethiad eu hachosion yn y byd. Hyn yw dyben Bywgraffiadau. Gofidus yw meddwl fod lluoedd yn treulio eu hoes heb roddi awr o'u hamser ystyriol i sylwi a barnu a ydyw dynion yn byw ai peidio er ateb dybenion eu bodolaeth yn y byd. Pan byddo dynion yn adfyfyrio ar y cofnodau a gadwyd o'r "pethau a ddygwyddasant o'r blaen yn siampl iddynt hwy, ac a ysgrifenwyd yn rhybudd i ninau," y mae eu meddyliau yn cael eu goleuo, eu teimladau yn cael eu cynhesu, eu hymddygiadau yn Cael eu cyfarwyddo i "rodio canol llwybr barn," fel y byddai iddynt lanw eu cylchoedd