Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn cymdeithas megys ag y gweddai iddynt, yn ol y byddont o ran eu galluoedd a'u sefyllfaoedd wedi eu gosod yn y byd. Arddangosiad teg o gymeriadau dynion ddylai Geiriadur Bywgraffyddol fod, fel y mae darluniau cywir i fod o'u personau. Os bydd yr ardebau wedi eu tynu yn ffyddlon, byddant yn arddangosiadau o'r hyn ydoedd y dynion; felly, bywgraffiadau teilwng o'r enw a drosglwyddant i'r oesoedd a ddeuant, ac i'r plant a enir gynlluniau o'r peth ydoedd dynion o ran eu cymeriadau gwirioneddol. Nid darfolawd yw Bywgraffiad i fod, ond arddangosiad ffyddlawn o'r hyn ydoedd cymeriadau y gwrthddrychau. Er y dylid trin a thrafod yr ymadawedig yn dirion, ysgafn, a mwynaidd, eto ni ddylid gwyngalchu gormod ar eu beddau. Bydd rhai bywgraffwyr yn casglu eu holl ddoniau a'u dychymygion yn nghyd i arganmol rhagoriaethau yr ymadawedig—ei dalentau, ei alluoedd digyffelyb, ei araethyddiaeth hyawdl, ei ddybenion pur a dihalog, nes bydd yr holl frychau wedi myned o'r golwg, ac yr ymddengys fel pe buasai yn un o drigolion gwlad y perffeithrwydd. Dichon fod amcan y cyfryw yn dda, er efallai nad oedd y darlun yn gywir. Pan fyddo darluniwr ffyddlon yn myned i dynu delw un, nid ei waith fydd dyfeisio pa fodd i'w dynu brydferthaf, na pha fodd i gael y lliwiau gryfaf, ond pa fodd i'w gael debyoaf i'r cynllun; nid pa un a fyddai yn hardd ac yn dlws fyddai y pwnc, ond a fyddai mor debyg i'r gwreiddiol ag y gallai ei blant, ei wyrion, neu ei orddisgynyddion, ffurfio dychymyg cywir am dano. Felly am Fywgraffiad, nid y peth y dylasai dyn fod, ond y peth ydoedd mewn gwirionedd a ddylasai ddangos, a gadael i'r darllenydd ei hun y gwaith o dynu casgliad pa fath ddyn y dylasai fod. Nid oes neb yn y byd hwn heb ei golliadau, a phan ddarlunir y rhai hyny gan law gywrain â lliwiau priodol, y mae addysg briodol o ochelgarwch yn cael ei chyflwyno i'r darllenydd. Gwnai esgeuluso y sylwadau hyn gau allan ran fawr o ddyben Bywgraffiad. Y mae y colliadau yn y Bywgraffiadau Ysgrythyrol yn oleudai i'n cyfarwyddo i gadw ein llestr yn mhell oddiwrth y creigiau ar ba rai y syrthiasant; ac y mae rhinweddau, ar y llaw arall, yn foddion i'n tynu i hwylio ar hyd yr un llwybr, i fordeithio wrth yr un ser, a than arweiniad yr un Llywydd, nes oyraedd yr un porthladd. Felly hefyd, y duwielion diweddar, y mae y rhai a'n blaenodd "wedi marw yn llefaru eto;" y mae eu Bywgraffiad yn gynorthwy i ereill i ffurfio eu cymeriadau ar eu hol. Y mae tuedd gref mewn darluniad cyffrous o bob math o gymeriad, da neu ddrwg, er effeithio yr unrhyw ddelw ar y darllenydd. Gwnaeth darllen hanes gorchestion ambell filwr dewr gyflwyno ysbryd milwraidd i filoedd a'i darllenasant; dywedir fod darllen hanes lladron penffordd wedi llithio canoedd i ledrad; dywedir fod ymgydnabyddu a hanes ambell wleidyddwr enwog, megys Blackstone, &c., wedi denu meddyliau miloedd o ddynion at bethau gwleidyddol; a bod darllen hanes bywyd duwiol a llwyddianus rhai o Weinidogion yr Efengyl wedi enyn awydd mewn llawer bachgen ieuanc i'w hefelychu; ac felly gyda golwg ar bob gwyddoniaeth a chelfyddyd, i raddau mwy neu lai. Canfyddwn yma werth bywgraffiadau duwiolion—"gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur"—er gwrthweithio tuedd niweidiol hanesion rhai wedi hynodi eu hunain mewn pethau diles a niweidiol, ac er dyrchafu meddyliau dynion uwchlaw pethau diniwaid ynddynt eu hunain at bethau mwy gwerthfawr. Gwaith gwleidyddwr ydyw trefnu a chynllunio ar gyfer y byd hwn, ond gwaith Gweinidog yr Efengyl ydyw cyfeirio at y byd a ddaw; amcan y gwleidyddwr yw oynyg at wella amgylchiadau tymhorol y wlad, ond dyben y Gweinidog Cristionogol a gyfeiria at radd uwch—at gyflawn fuddugoliaeth ar bob gelyn, at adgyfodiad gorfoleddus o byrth y bedd, a thragywyddol ddedwyddwch yn y nef. Nls gallwn ganfod pa mor bell y mae argraffiadau cymeriad yn cyraedd yn eu dylanwad moesol. Hyn yw Bywgraffiad adeiladol, a hwn yw y ooffadwriaeth sydd fendigedig. Byddai eu defnyddio o wir werth i'r genedl ieuanc sydd yn codi. Ofnwn fod chwaeth ieuenctyd ac ereill yn myned yn ormodol ar ol pethau diwerth, gan adael pethau sylweddol heb eu ceisio.

Gan mai tir anghof ydyw y bedd, a bod y meirw yn fuan yn cael eu hanghofio, a'u gweithredoedd yn cael eu hebargofio yn y ddinas lle y gwnaethant felly, dylem fod yn dra gofalus i gadw coffadwriaeth i'r oesoedd a ddeuant o'r rhai hyny "a gawsant air da trwy ffydd," y rhai a fuont hynod yn mhlith yr apostolion, ac fel Jehoiada, a wnaethant ddaioni yn Israel tuag at Dduw a'i dy; fel pan y byddont hwy fel canwyll o dan lestr yn ngwely dystaw y bedd y byddo y grasau a'r doniau a ddysgloiriasant ynddynt yn llewyrchu gerbron cenedlaethau dyfodol, fel y gogonedder eu Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, ac y byddo i'w hesiamplau effeithio yn ddaionus ar ou holynwyr, trwy fod yn anogaeth i'r rhai a ddarllenant