Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

calon, ac iddynt ddysgu ffydd Crist gydag eiddgarwch dihefelydd. Prin y mae eisiau crybwyll mai Traeth y Lafan ar gyffiniau Arfon ydoedd y lle a nodir fel etifeddiaeth Helyg ab Glanawg. Nid oes yn awr un coffhâd am eglwys wedi ei chyflwyno iddo, a chedwid ei wylmabsant ar Wyl yr Holl Saint.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Aelhaearn
ar Wicipedia

AEL-HAIARN. Mab ydoedd i Hygarfael ab Cyndrwyn o Lystyn Gwenan yn Nghaereinion, a brodyr iddo ydoedd Cynhaiarn a Llwchaiarn. Efe a wnaeth eglwys Llanaelhaiarn wrth yr Eifl yn Arfon, a Chegidfa yn Maldwyn. Yr oedd yn ei flodau yn y chweched cant, a'i wylmabsant a gedwid ar Wyl yr Holl Saint.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Aelrhiw
ar Wicipedia

AELRHIW. Nid oes dim o hanes y Sant hwn ar gael a chadw heblaw mai efe a adeiladodd eglwys y Rhiw, yn Lleyn, a bod ei wylmabsant ar y 9fed o Dachwedd.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Aerdeyrn
ar Wicipedia

AERDEYRN. Mab ydoedd i Gwrtheyrn Gwrthenau, ac iddo y cyflwynwyd Llanedeyrn yn Nghibwyr: blodeuai yn ystod y pumed cant.


AERDDREM. Bedo Aerddrem, neu Aurdrem, oedd fardd o gryn enwogrwydd, a brodor, meddir, o Lanfor yn Meirionydd. Blodeuai o 1480 hyd 1510. Gwelir ar glawr y Greal fod un ar ddeg o'i gywyddau ar gof a chadw mewn llawysgrif. Naw o honynt "I ferch," a dwy dan yr enw "Canu duwiol." Dechreua un "Canu duwiol" fel hyn:

"Y gwr a wnaeth gaerau nef,'

a'r llall,

"Pwy'n gadarn ddyddfarn a ddaw?

Claddwydd ef, meddynt, yn Llanfor.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Afaon fab Taliesin
ar Wicipedia

AFAON AB TALIESIN. Bardd milwraidd oedd hwn. "Tri Tharw Unben Ynys Prydain,—Elmur ail Cibddar; a Chynhafal fab Argad; ac Afäon ab Taliesin Ben Beirdd; a beirdd oeddynt y tri hyn, ac nid oedd a ofnynt yn nghâd a brwydr, eithr rhuthraw ynddynt a wnaent, ac nid ofnynt gyflafan." "Tri Aerfeddawg Ynys Prydain,Selyf fab Cynan Garwyn; ac Afaon fab Taliesin; a Gwallawg fab Lleenawg; sef achaws y gelwit hwynt yn Aerfeddogion am ddarfod dial eu cam oe eu beddeu.' Cafodd ei ladd gan Lawgad Grwm Fargod Eiddin: neu yn ol un arall o'r Trioedd,—"Tair anfad gyflafan Ynys Prydain,—Eiddyn mab Einygan a laddwys Aneurin Gwawdrydd Mydeyrn beirdd; a Llawgad Trwm Bargawd a laddwys Afäon mab Taliesin; a Llofan Llawdino a laddwys Urien mab Cynfarch; sef tri meib o feirdd oeddynt a las gan y triwyr hyny."

Dyma'r addysg a gafwyd ar ei ol yn Chwedlau y Doethion:

"A glywaist ti chwedl Afaon
Fab Taliesin, gerdd gyfion?
Ni chel grudd gystudd calon."


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Afan Ferddig
ar Wicipedia

AFAN FERDDIG. Bardd Cadwallon ab Cadfan brenin y Cymry yn y seithfed ganrif. Nid oes dim o'i waith ar gof a chadw. Nid oedd bardd wrth ei alwad i ryfela, ac ni feiddiai neb ddynoethi arf angeuol yn ei wyddfod yn ol Barddas; am hyny noda y Trioedd.— Tri Gwaywruddion Beirdd Ynys Prydain;—Tristfardd, bardd Urien Rheged; Dygynelw, bardd Owain ab Urien; ac Afan Ferddig, bardd Cadwallawn ab Cadfan; a meib o feirdd y tri hyn, ac nis gellid a'u dehorai," neu a'u hataliai. Yr oedd y tri yna wedi rhuddo eu gwaywffyn mewn gwaed fel nad oeddynt yn feirdd gorsedd heddwch.