Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Afan Buallt
ar Wicipedia

AFAN BUALLT oedd sant a flodeuodd yn y rhan gyntaf o'r chweched cant. Ei dad oedd Cedig ab Caredig ab Cynedda, a'i fam, Tegwedd, merch Tegid Foel o Benllyn; efe a sefydlodd yn Muallt yn ngwlad Frychan, ac iddo ef y cyflwynwyd Llanafanfawr a Llanafanfechan yn y wlad hono, a dywedir fod ei fedd wrth yr eglwys olaf, yn weledig yn awr, a'r ysgrif a ganlyn yn amlwg ar y gareg :—HIC JACET SANCTVS AVANVS EPISCOPVS, (sef yw hyny Yma gorwedd sant Afan Esgob). Bernir iddo fod yn drydydd yn llinach esgobol Llanbadarn fawr. Cedwid ei wylmabsant ar yr unfed ar bymtheg o Dachwedd.

AFARWY oedd fab Lludd, brenin y Brutaniaid. Gan i'w dad farw cyn iddo ddyfod i'w oed, cymerodd Caswallawn ei ewythr y llywodraeth, yr hwn a roddodd Lundain a iarlliaeth Cent i Afarwy, a Chernyw i'w frawd Teneufan. Darfu i Caswallawn, wedi cael buddugoliaeth fawr ar y Rhufeiniaid dan Cæsar, wahodd yr holl benaethiaid i'w dathlu âg aberthau i'r duwiau, a gwnaed gwledd ardderchog; ond digwyddodd yn anlwcus ar y pryd, i Hirlas, nai y brenin, gael ei ladd gan Cyhelyn, nai Afarwy mewn ymorchest paledog, yr hyn a gynddeiriogodd y brenin gymaint, fel y penderfynodd gael prawf arno. Afarwy, yn ofni y canlyniad, a enciliodd gyda'i nai, o'r llys i'w diriogaethau ei hun, yr hyn a barodd i Caswallawn a'i fyddinoedd ymosod ar Lundain. Afarwy, wedi cael ymosod arno felly, a ddeisyfodd gymod â'r brenin, yr hyn a nacawyd. Yna efe a anfonodd i wahodd Cæsar i'w gynorthwyo, gan addaw ar yr un pryd ei gynorthwyo yntau i ddarostwng y Brutaniaid i'r Rhufeiniaid; ond ni welai Cæsar yn weddus dyfod i Brydain, ar ddim ond geiriau teg Afarwy, nes iddo anfon ei fab, a deg ar hugain o feibion penaethiaid drosodd yn wystlon. Yna efe a fordwyodd drosodd, ac a unodd âg Afarwy, a darfu i'w cydalluoedd orchfygu Caswallawn. Ni fynai Afarwy i'r Brutaniaid fod mwyach yn ddarostyngedig i'r Rhufeiniaid, yr hyn a achlysurodd i Cæsar ymheddychu yn anewyllysgar, ar yr amod fod i deyrnged o dair mil o bunau mewn aur ac arian gael eu talu gan y Brutaniaid yn flynyddol. Yr haf canlynol, aeth Afarwy i Rufain, i wrthwynebu Pompey, lle yr arosodd rai blynyddoedd, a bu farw Caswallawn yn ei absenoldeb, a'i frawd ieuengach Teneufan a ddilynodd i'r orsedd. Dyna sylwedd hanes Afarwy yn y Brutwn Cymreig, fel y maent wedi eu cadw yn y Myv. Arch. Ymddengys mai Androgorius y gelwid Afarwy gan y Rhufeiniaid.


AIDAN. Un o ddisgyblion Dyfrig oedd, ac yn Nglasgor Henllan y dygwyd ef i fynu o dan arolygiaeth yr un a enwyd. Gwnaed ef yn esgob cynorthwyol dros ran o sir Henffordd a elwir Ergyng. Cymerth hyn le pan oedd Cynfyn ab Pebiaw yn frenin ar y wlad hono, sef yn y pumed cant.


AIDAN. Bu'n esgob Llandaf dros ryw hyd, ond yn y flwyddyn 720 daeth y Saeson paganaidd yno, ac yspeiliasant yr eglwys, a rhoddasant Aidan a llawer o offeiriaid i farwolaeth.


AILFYW. Ei dad oedd Dirdan neu Durdan, gwr o'r Eidal, a'i fam oedd Danadlwen ferch Gynyr o Gaergawch; blodeuodd yn ystod y chweched cant, a sefydlodd Llanailfyw neu St. Elvies gerllaw Ty Ddewi yn Mhenfro.


ALAN. Un o'r teulu mawr a ddaeth drosodd o Lydaw yn Ffrainc, ydoedd Alan. Ei dad oedd Emyr Llydaw, brenin Graweg, ac yn mysg amryw eraill o'r un wlad, daeth i Gymru, ac ymsefydlodd yn Nghor