Crybwylla ef ddarfod i Alban, tra yr ydoedd yn bagan, neu o'r hyn lleiaf, cyn iddo wneud proffes gyhoedd o Gristionogaeth, gadw neu yn hytrach guddio, ei gyfaill Amphibalus yn ei dy, ac i'r llywodraethwr Rhufeinig glywed ryw fodd ei fod ef yn celu Cristion yn ei dy, ac iddo anfon milwyr yno i ddal y cyfryw. Alban pan welodd hyn a wisgodd am dano ddillad ei gyfaill, a chymerwyd ef o flaen yr Ÿnad. Digwyddodd, pan ddygpwyd Alban yno fod hwnw yn offrymu i'w dduwiau, a chan na fynai ef gydweithredu yn y drefn, ond cyhoeddi ei hun yn Gristion, gorchymynwyd ar iddo gael ei ferthyru yn ebrwydd. Dywedir hefyd i'w eonder gwrolfrydig ddylanwadu yn arbenig ar yr edrychwyr, a pheri i lawer o honynt gofleidio ffydd Crist Iesu y Gwaredwr. Torwyd ei ben ar y degfed dydd o Orphenaf, O. C. 303. Bu ei goffadwriaeth yn fendigedig am ganrifoedd, a thelid parch mawr iddo am ei ymlyniad didwyll. Adeiladwyd eglwys ar y llecyn y dienyddiwyd ef yn lled fuan ar ol ei ferthyrdod, ac mewn amseroedd diweddarach addurnwyd hi fel yr ydoedd yn un o'r adeiladau prydferthaf a thlysaf yn Lloegr.
ALBANACTUS, oedd un o dri mab Brutus, oddiwrth yr hwn y dywedir gan rai ysgrifenwyr y deilliodd yr enw Prydain ar yr Ynys hon. Dywed y traddodiad fod Brutus yn frenin dros yr holl Ynys, ac iddo gael o'i wraig Inogen dri mab, Locrin, Camber, ac Albanactus. I'r hynaf efe a roddodd y rhan ganol a'r oreu, a alwyd oddiwrtho yn Lloegria, neu Loegr, yn ol fel y geilw y Cymry hyd heddyw y wlad a elwir gan y Saeson, England. Cafodd yr ail fab Cambri, Gymru presenol; a'r ieuengaf, Albanactus, a gafodd yn rhan iddo yr holl wlad i'r gogledd o Humber.
ALED, a elwir hefyd Elfeth, ac ambell dro yn Eiluned. Gwel EILUNED.
ALED (TUDUR). Theodore Aled, Bencerdd, bardd Cadeiriog Eisteddfod Caerwys, yn y fl. 1525. Efe oedd prif fardd addefedig ei oes yn Ngwynedd a Phowys ar ol marwolaeth ei ewythr a'i athraw, Dafydd ab Edmwnd. Preswyliai ar fin afon Aled, yn Garth Geri Chwibryn, yn Llansanan, a chymerodd ei enw barddonol oddiwrth yr afon hono. Blodeuai o 1480 i 1525. Yr oedd efe, fel pawb o feirdd yr oes hono, yn babydd; ac yn mhellach na hyny yr oedd efe yn fynach o urdd Sant Ffransis. Pan wisgwyd ef yn yr urdd hwnw, canodd yr englyn canlynol:
"Brawd i Sant Ffransis, na bo brych—f' wyneb
Pan fyner ei edrych;
Yn ei grefydd yn gryfwych,
Yn ei wisg wyf yn was gwych."
Mae Cywydd Gwenfrewi yn amlygiad cyflawn o'i goelion Pabaidd, yn ogystal ag o'i ddawn farddonol. Mae ein darllenwyr yn gyfarwydd â chwedl Gwenfrewi, sef i ryw dywysog dori ei phen a'i gleddyf am na chydsyniai a'i drachwant halogedig, ac i Feuno sant godi'r pen, a'i osod yn ol yn ei le, ac adferu bywyd Gwenfrewi. Yn y man y codwyd y pen y tarddodd ffynon Treffynon. Gwel BEUNO. Dyma engreifftiau o'r Cywydd :
"Cariadog lawog o lid
Hyd ei theml daeth i'w hymlid;
Lladdodd wen lle 'dd oedd unawr,
Llyn tawdd a'i llyncawdd i'r llawr;
Gwae'r ynfyd er gwirionfun,
O'i lladd hi collodd ei hun;
Trwy'i mwnwgl taro meinwen,
Treiglo'r arf trwy goler wen.'