Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ol i Feuno ail osod y pen ar gorph Gwenfrewi, gwelid ol yr asiad ar y gwddf,

"Nodi amgylch, nid ymgudd,
Nod yr arf yn edau rudd."

Am darddiad y ffynon a'i rhinweddau, y dywed:—

"Arwain afon o'r nefoedd,
A chwys gras o'l chysegr oedd:
Dy deyrnged pan godod gwen
Tarddu enaint Iorddonen;
***
Arogl o nef i'r glyn yw.
Ager gwin o'r gro a gaid
Fal gwynt o fel y gynthiaid;
Mal gwiw arogl mewn gweryd,
Mwag o ban yn mysg y byd,
Man pur ar bob maen purwyn,
Maen ac ol gwaed mwnwgl gwyn." &c.

Gwel y Cywydd yn llawn yn y Gwladgarwr, llyfr vi, tu dal. 368. Yr oedd Tudur Aled yn bleidiwr brwdfrydig i Syr Rhys ab Tomas o Ddinefwr, yn yr ymdrech egniol a wnaed i osod Iarll Rismwnt, sef Harri Tudur o Benmynydd, Môn, wedi hyny Harri VII., ar orsedd Prydain Fawr. Ganed Syr Rhys yn 1451, a bu farw yn 1527; felly yr oedd Tudur Aled ac yntau yn gyfoedion. Taid Syr Rhys oedd Gruffudd ab Nicolas, noddwr Eisteddfod fawr Caerfyrddin 1451, pan enillodd D. ab Edmwnt, ewythr Tudur Aled, y gadair arian. Canodd Tudur Aled lawer o glod i Syr Rhys am ei wrhydri milwraidd, ac er anog y Cymry i'w gynorthwyo; ac yr oedd gair bardd y pryd hwnw yn uwch na gair pob un arall.

"Gair ar air pawb oedd ei air ef."

Dyma un o'i benillion gorchestol i Syr Rhys ab Thomas:—

"Aeth d' arwydd arnynt o waith d' arddyrnau,
A'th law mewn irwaed, a'th lu manerau,
A throi gwayw'n waedwyllt, a'th rwyg waniadau,
A thrwy fael fflemig Arthur fel fflamau;
Anfon drwy Dduw Ion un o'r ddau,—o'th waith,
Ai nhwy'n feirw unwaith, ai ni'n hen freiniau."

Gwelir fod cymeriad llythyrenol yn y penill, pob llinell yn dechreu gydag A.

Diddadl fod Tudur Aled yn wr o ddysg a gwybodaeth gyffredinol, wedi cael ei addysgu gan D. ab Edmwnt, yn mhob gwybodau Cymruaidd, mal y tystia yn ei farwnad iddo:

"F'ewythr o waed, f'athraw oedd,
Fonwes gwawd, fy nysg ydoedd.
Athraw oedd ef uthr ei ddull,
Athronddysg athraw henddull."

Ac yr oedd ei urdd Babaidd, a'i gydnabyddiaeth a'r Monachod yn Ninas Basing, Maenan, Llanegwestl, ac feallai Ystrad Fflur, a manau eraill, yn sicrhau fod holl ddysg eglwysig y cyfnod hwnw yn ei feddiant. Mae yn cyfeirio weithiau at yr awdwyr Paganaidd uchelddysg, megys ag y dywedai am rywun

"Os yn y Cor Seneca yw."

Cynaliwyd dwy Eisteddfod rwysgfawr yn Nghaerfyrddin, yn y bumthegfed ganrif; y gyntaf yn 1451, a'r ail yn 1461. Ymddengys i D. ab Edmwnt gael y flaenoriaeth, gadarnhau ei bedwar mesur ar hugain, yn y ddwy; eithr bu farw cyn sefydlu ei ddosparth yn Ngwynedd a Phowys. Dichon mai diffyg cefnogaeth breninol oedd yr achos o'r oediad, gan fod rhyfeloedd y Rhosynau yn siglo y deyrnas yn y tymhor hwnw. Pa fodd bynag, disgynodd y gorchwyl hwnw ar Dudur Aled. "Llyma bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod, modd ag a'u doded ar ddosparth gan Ddafydd ap Edmwnt, yn yr ail Eisteddfod fawr yn Nghaerfyrddin, oed Crist 1461, a hon a elwir Dosparth