Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Am deilyngdod barddonol Tudur Aled gall ein darllenwyr droi i Orchestion Beirdd Cymru, a barnu drostynt eu hunain. Barna Gwallter Mechain fod ei ddarluniad o'r March yn werth i'w gydmharu a darluniadau Homer a Virgil o'r un sylfon. Dyma nerth y march;"

Ser—neu fellt—o'r sarn a fydd'
Ar godiad yr egwydydd;
Carnau a phedolau'n dan
A ddryllia ddaear allan.

Gwelwch eto mor ysgafndroed oedd y march:—

"O gyrir ef i'r gweirwellt,
Ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt."

Noda Dr. W. O. Pughe fod Gramadeg o waith Tudur Aled mewn bod yn rhywle, canys efe oedd athraw cadeiriog ei oes. Bu Gruffydd Hiraethog o dan ei athrawiaeth; a gellid meddwl mai athraw dyfnddysg a chywrain dros ben ydoedd. Mae coethder, celfyddyd, ac ucheledd, yn hynodi ei gyfansoddiadau; ceir tlysni diarebol yn fynych yn ei farddoniaeth, megys;—

"Mae'n wir y gwelir argoelyn—difal
Wrth dyfiad y brigyn;
A hysbys y dengys dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn."

Nid oedd yn dda rhyngddo ag Abad Llandudoch, oblegyd nid yr un urdd o fonachod ag ef oedd yr Abatty hwnw:—

Abad mul brychiad, mael broch—diobaith
Neud abad Llandudoch;
Abad gytgat llygatgoch,
Abad a fyn bwyd i'w foch,

Yn sir Benfro y mae Llandudoch, a moch yw y llysenw a roddir ar y trigolion, a moch y galwai Tudur Aled fonachod yr Abatty. Dyma syniad cywrain o'i eiddo wrth ddarlunio gwron:

"Gwrawl, tragwrawl, trugarog—wrawl,
Ni bu tragwrawl na b'ai trugarog.

Dywedai rhywbryd tua gauaf ei einioes:

"Gwanhau yr wyf gan hir ofal,"

Diweddwn ein cofion am dano yn ei eiriau ei hun, y rhai a ddangosant ei grefyddolder:

"Rhown ein gofal bob calon
Ar Grist fry a'i groeswaed fron,
Lle nad oes na garwloes gur.
Na dialedd na dolur,
Nac erlid, llid nac oerloes,
Na dig, na galar nid oes,
Na newyn, chwerwddyn na chwyn
Na syched, na nos achwyn.

Sylwyd eisioes fod Tudur yn un o'r Brodyr Llwydion, neu frawd i Sant Ffransis, a'i fod yn llawn o frwdfrydedd Pabyddol. Yn ei amser ef, sef yn 1490, yr adeiladwyd Capel Gwenfrewi yn Nhreffynon, felly yr oedd rhinweddau y ffynon yn tynu llawer o sylw, ac o bererinion ati. Canwyd ei farwnad ef gan ei gydlafurwr yn Eisteddfod Caerwys, sef Gruffydd ab Ieuan ab Llywelyn Fychan o'r Llanerch.

Dyma rai llinellau o'i farwnad o'r Brython:

"Trist yw'r cwyn tros awdur cerdd,
Trwstangamp trawst awengerdd;
Am na bu, ac am na bydd,
Ail Dudur Aled wawdydd.
I Ddofydd yr addefwyd,
Ei ddewis glog oedd wisg LWYD;

Cryf oedd o serch crefydd saint,
Crefydd—frawd cor ufyddfraint;
Ffydd y sant hoff oedd ei swydd,
FFRANSIS a hoffai'r unswydd,
Buasai well yn y bais hon,
Bwrw deuddeg o brydyddion.

Dywedir mai yn Nhre'rbrodyr yn Nghaerfyrddin y claddwyd ef.