Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ALO. Penaeth o Bowys, yr hwn oedd yn ben un o bum costoglwyth Cymru; y lleill oeddynt Gwenwys, Blaidd Rhudd, Adda Fawr, a Heilyn Ysteilforch o Forganwg.

AMABON GLOCHYDD, y penaf un o dair llinach ddiweddar Cymru y lleill oeddynt Cantelli ac Osborn.


AMAETHON, ab Don, a brawd i'r lledrithiwr enwog Gwydion ab Don. Dywed yr hen ramantau Cymreig ddarfod iddo ddwyn iwrch a chenaw gast o Annwn, yr hyn a achlysurodd y frwydr a elwid Câd Goddeu (Battle of the Trees), a dyma un o dair ofergad Ynys Prydain. Ceir cân gyfriniol iawn o waith Taliesin ar y frwydr hon yn y Myf. Arch. t. d. 30.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Emrys Wledig
ar Wicipedia

AMBROSIUS, (AURELIUS) fel y mae yn cael ei alw gan Sieffrey o Fynwy, ond Ambrosius Aurelianus gan Gildas a Bede, ac y mae yn cael ei alw yn Emrys Wledig mewn hanesion Cymreig. Yr oedd o darddiad Brutanaidd-Rhufeinig, a dygodd ei dad, Cystenyn Fendigaid, urddas brenhinol, gan iddo gael ei ethol yn frenin y Brutaniaid, wedi i'r Rhufeiniaid adael yr Ynys, pan y daeth drosodd i'r wlad hon o Lydaw i gynorthwyo y Brutaniaid. Wedi i'w dad gael ei ladd yn y rhyfeloedd a'r Pictiaid, cafodd Aurelius Ambrosius ei addysg yn llys ei ewythr Aldroen, brenin Llydaw; yr hwn, ar gais y Brutaniaid, a'i hanfonodd drosodd gyda deng mil o wyr, i'w cynorthwyo yn erbyn y Sacsoniaid, y rhai a wahoddwyd i Brydain gan Gwrtheyrn eu brenin. Bu Ambrosius mor llwyddianus, fel y darfu i'r Brútaniaid ei ddewis yn frenin arnynt, gan orfodi Gwrtheyrn i ganiatau iddo y rhanau gorllewinol o'r deyrnas, a wahenid gan y brif-ffordd Rufeinig a elwid Stryd Watling. Ychydig amser wedi hyny, darfu y Brutaniaid anfoddloni wrth Gwrtheyrn, a thynu eu gwriogaeth oddiwrtho, ac ymneillduodd yntau i gastell yn Nghymru; lle, wedi ei warchae gan Ambrosius, ac i'r castell fyned ar dân, y collodd yntau ei fywyd yn y fflamau. Dygwyddodd hyn oddeutu y flwyddyn 476, yn ol hanes rhai, tra y mae eraill yn amseru yr amgylchiad yn y flwyddyn 481. Daeth Ambrosius, trwy yr amgylchiad hwn, yr hollol deyrn, ac a ymwisgodd yn y porphor ymerodrol, yn ol dull yr ymerawdwyr Rhufeinig. Y mae y Brutiau Cymreig a Sieffrey o Fynwy yn dweyd mai Ambrosius a adeiladodd Cor Gawr (Stonehenge), a elwir yn Gymraeg, "Gwaith Emrys," mewn coffadwriaeth am dri chant o ardderchogion, y rhai yn fradychol a laddwyd mewn gwledd gan y Sacsoniaid. Dywedir hefyd iddo roddi amgylchiadau yr eglwys mewn trefn, yr hon a esgeuluswyd yn fawr yn amser y rhyfeloedd anrheithiol; ac wedi galw yn nghyd y tywysogion a'r ardderchogion i Efrog, efe a orchymynodd ar fod i'r eglwysi gael eu gwellhau, a'r offeiriaid eu hadsefydlu. Y mae Sieffrey yn rhoddi cymeriad rhagorol iddo, ac yn dywedyd yr achlysurwyd ei farwolaeth gan wenwyn a roddwyd iddo yn Westminster, gan ryw Eopa, Sacsoniad, yr hwn a ymffugiodd yn feddyg, ac a gyflogwyd i'r dyben hwnw gan Pasgen, un o feibion Gwrtheyrn. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 500.


AMLAWDD WLEDIG, tywysog o'r Brutaniaid Gogleddol, yr hwn oedd yn byw oddeutu diwedd y bumed ganrif. Efe oedd tad Tywynwedd, mam Tyfrydog; ac hefyd Eigr, neu Ygrainc y Rhufeiniaid, a mam y Brenin Arthur. Crybwyllir am dano yn Mabinogi Cilhwch ac Olwen.