Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ANE, neu Aneu, un o feibion Caw, arglwydd Cwm Cawlyd, talaeth yn Ngogledd Lloegr, yr hwn, o herwydd cael ei flino gan ymosodiadau y Pictiaid a'r Scotiaid, a ymfudodd gyda'i deulu i Gymru, ac a gafodd diroedd yn Môn gan Maelgwn Gwynedd. Y mae Ane yn cael ei gyfrif yn mhlith y seintiau Cymreig, ac y mae eglwys Coed Ane, yn y wlad hono, yn cael ei galw yn ol ei enw. Yr oedd yn ei fri yn y chweched ganrif.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Aneirin
ar Wicipedia

ANEURIN GWAWDRYDD, yr enwocaf o'r cynfeirdd, oedd fab Caw arglwydd Cwm Cawlyd, yn y Gogledd. Oesai yn gynar yn y chweched ganrif. Yn yr oes hono yr oedd gan y Cymry fan deyrnasoedd ar dueddau yr Alban, y rhai a elwid "Teyrnedd y Gogledd." Yno yr oedd Deifr a Bryneich, Rheged, Argoed Llwyfain, Derwenydd, Manau Gododin, y Cwm Cawlyd, &c. Anhawdd yw adnabod yr hen derfynau yn bresenol, ac nid ydyw ein haneswyr wedi talu y sylw a ddylasent i'r hen diriogaethau hyny. Hefyd, mae yn deilwng o sylw mai brodorion o'r parthau hyny oedd amryw o'n cynfeirdd, yn enwedig Aneurin Gwawdrydd, Llywarch Hen, &c. Gelwir Caw weithiau yn Caw o Brydyn, Caw ap Geraint, arglwydd Cwm Cawlyd neu Cawllwg, ac yr oedd ei drigfa fyn rhywle yn Strathclwyd. Dygwyd ei diriogaeth oddiarno gan y Gwyddyl Ffichti, a ffodd yntau i Gymru. Cafodd nawdd gan Faelgwyn Gwynedd, ac ymsefydlodd yn y Twr Celyn yn Mon. Mae llawer o'i blant yn mhlith y seintiau Cymreig. Yr oedd dynion o bwys mewn gwybodau hynafol, megys Iolo Morganwg a Dr. Owen Pughe, yn barnu mai yr un oedd Aneurin a Gildas sant, ond mai Aneurin oedd ei enw milwraidd a barddonol yn more ei oes, ac iddo droi yn fynach, ac arferu yr enw Gildas fel gwr eglwysig, cyn ei farw. Dygir amryw o resymau dros y dyb hon. Caniateir ar bob llaw mai meibion Caw oedd y ddau; ond y mae rhyw bethau yn awgrymu eu bod yn nes at eu gilydd na dau frawd; canys mae yr hen gofrestrau o feibion Caw, os enwant un yn esgeuluso y llall. Nid yw Aneurin a Gildas byth yn yr un gofrestr. Hefyd, mae'r ddau enw yn gyfystyr. Mae Aur yn y ddau, "Gilda, Gildas y Coed Aur, Aur y Coed Aur, ac Aneurin y Coed Aur," ydynt enwau cyfystyr. Gelwir Cenydd yn fab Gildas ab Caw, a gelwir Ufelwyn yn fab Cenydd ab Aneurin y Coed Aur. Heblaw hyny, mae bywgraffwyr monachaidd Gildas yn ei alw yn fab Caw brenin o'r Gogledd. Ond y mae anianawd a chymeriad y ddau ddyn yn eu harddangos yn fodau hollol wahanol i'w gilydd. Yr oedd Aneurin yn llawn o wladgarwch cenedlaethol; ond Gildas o'r tu arall yn beio ar y genedl, ac yn ei diraddio. Heblaw hyny, bu farw Gildas yn Ynys Afallon, a chyflafanwyd Aneurin yn Llancarfan. Gwel Hanes Cymru, gan Carnhuanawc, tu dal. 366, 367, a'r Welsh Saints, gan y Cadeirdraw Rees, tu dal. 225-227. Ond fel bardd y mae a wnelom yn benaf ag Aneurin; ac y mae ei enwogrwydd barddonol yn gorphwys braidd yn llwyr ar y Gododin. Dyma'r gân benaf, yn ddiau, o hen ganiadau y Cymry. Ei sylfon yw brwydr drychinebus Cattraeth, yn yr hon y collodd y Cymry "deyrnedd y gogledd" am byth. Mae awdwr Eminent Welshmen, yn gosod y frwydr hon tua'r flwyddyn 540. Ond y mae Ab Ithel yn ei gyhoeddiad ef o'r Gododin yn gosod y tebygolrwydd i'r frwydr hon ddigwydd tua'r flwyddyn 570, gan i un o'r gwroniaid a syrthiodd yn Nghattraeth ladd Ida yn y flwyddyn 560. Mae ystyr y gair Gododin yn dywyll, ac anhawdd ei benderfynu. Dywedir i Cunedda Wledig ddyfod ar y cyntaf o'r parth Gogleddol,