Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r ardal a elwir Manau Gododin."—Hanes Cymru, tu dal. 356. Gelwid yr ardal Ottodinia, a'r llwyth a'i cyfaneddent Ottodini. Tybir fod y lle hwn yn agos i Bryneich, a bod Gododin a Chattraeth yn ddau enw ar yr un ardal, canys y mae Aneurin yn dywedyd yn y Gododin, penillion 6, 7:

Gwyr a aeth Ododin chwerthin ognaw, &c.
Gwyr a aeth Ododin_chwerthin wanar, &c,

Ac yn y penillion 9-14:

Gwyr a aeth Gattraeth gan wawr, &c.

Mae Taliesin yn galw Urien Rheged yn "Llyw Cattraeth," yr hyn a brawf fod parth yn agos i Reged yn yr hen amser o'r enw Cattraeth a Gododin. Barna T. Stephen yn ei Literature of the Kymry, t. d. 11, mai Cataracton y Rhufeiniaid, Catterick yn awr, oedd yr hen Gattraeth; tra mae Ab Ithel yn tybied mai Catrail sy'n ei gynrychioli. Mae y Celtig Davies o'r tu arall yn rhoi ystyr farddawl i'r gair, gan farnu mai Cadeiriaith, neu yn dalfyredig, Cadriaith, yw ei ystyr. Gododin hefyd a ddadansoddir o to, godo—töedig mewn rhan; a din, dinas, neu amddiffynfa—dinas odöedig. Sonia y Trioedd am "Gadriaith ab Porthor Godo," ond nis gwn pa gysylltiad oedd rhwng hwnw â Gododin. Golyga y Parch. E. Willliams (Cam. Reg. vol. ii. p. 16) fod yr enw yn arwyddo parthau ar derfynau cysgodwydd (regions bordering on a covert); sef lle, feddyliem, rhwng Tir Ial a Gwyddeli. Pa fodd bynag am y lle, a'i ystyr, sylfon y Gododin ydyw Brwydr Cattraeth. Barna rhai mai coffhad am rhyw un frwydr arbenig ydyw; barna eraill fod yno goffhad am amryw frwydrau yn y rhai y darostyngwyd Cymry y Gogledd; ond y mae y Celtig Davies yn barnu nad oes yno gyfeiriad at frwydr yn y byd, eithr darluniad o Frad y Cyllill Hirion. Barna eraill na bu y fath beth a "Brad y Cyllill Hirion" erioed; ond mai chwedl ydyw a luniwyd ar gefn hanes gwirioneddol brwydr Cattraeth, ac i'r chwedl yn rhawd amser ddiorseddu yr hanes, a'i yru i dir annghof. Beth bynag am wirionedd Brad y Cyllill Hirion, y mae yma frwydr gelaneddog a therfynol wedi ei hymladd, yn ol tystiolaeth y gân:—

O freithell Gattraeth pan adroddir,
Maon dychiorant; eu hoed bu hir;
Edyrn diedyrn, a migyn dir, &c.

Sef, Pan adroddir hanes brwydr Cattraeth, y bobl a ocheneidiant; hir y bu [y gwroniaid] yn absenol, neu yn oedi dychwelyd; arglwyddiaeth ddiarglwydd, sef yr arglwyddiaeth wedi ei cholli yn y frwydr. "A mygyn dir;"—barna Ab Ithel mai tir yn mygu, sef wedi ei losgi, a feddylir; ond cysonach yma ydyw migyn, tir wedi ei figno, neu ei sathru tan draed, a'i wneud fel cors gan y gelynion. Parhaodd y frwydr mewn rhwysg a chynddaredd am bedwar diwrnod, mal y tystia y penill 68:

Dyfforthes meiwyr molud Nyfed,
Baran tan terydd ban gyneued;
Dyw Mawrth gwisgasant eu gwrm dudded,
Dyw Mercher priddaint eu calchdoed,
Difiau bu diau eu difoed,
Dyw Gwener celanedd a amddyged,
Dyw Sadwrn bu difwrn eu cydweithred,
Dyw Sul eu llafnau rhudd ymddyged,
Dyw Llun hyd ben clun gwaedlyn gweled;
Neus adrawdd Gododin gwedi lludded,
Rhag pebyll Madawg pan adgoried
Namyn un gwr o gant yno ddeled."

Gwelir oddiwrth y penill uchod fod y milwyr yn cyflawni rhyw ddefod grefyddol cyn dechreu'r frwydr, sef moli Nyfed yn ngwyddfod y tân terydd a gyneued ar ryw le ban, neu uchel. Y bardd, feallai, oedd yn