offeiriadu; a'r meiwyr yn dyphorthi—gair arferedig hyd heddyw yn Arfon am swydd Clochydd, yw "Porthi y Gwasanaeth." Y mae yn anhawdd gwybod a oedd y Cymry yn arfer rhyw ddefodau Derwyddol, ai nad oeddynt; ond y mae yn debyg fod y Saeson yn cyflawni rhyw ddefodau paganaidd, fel y prawf y penill 80:
Gwelais y dull o ben tir adoyn,
Aberth am goelcerth a ddysgynyn,
Gwel hefyd y penill 92:
Gwelais y dull o bentir adoyn,
Aberthach coelcerth a ymddygyn.
Yr oedd y Cymry, mae'n debygol, yn fwy goleuedig:
Cyd elynt i Lanau i benydiaw.—Pen. 63.
Dichon mai oddiwrth y Cymry y cafodd y Saeson yr arferiad o wisgo milwr—wisg goch, canys y mae yn amlwg fod y Cymry yn y frwydr hon yn gwisgo "gwrm dudded," sef gwisg lwydgoch, neu ddugoch, sef lliw cyfaddas i guddio'r gwaed, gan eu bod bron yn gydliw. Trodd y frwydr hon mor llwyr yn erbyn y Cymry, fel na ddiangodd ond tri o'u penaethiaid, sef Cynon, Cadraith, a Chadlew, ac Aneurin ei hun, yn fyw ohoni, er fod trichant a thriugain a thri o eurdorchogion yn cychwyn i'r maes ddydd Mawrth y bore!
Tri wyr a thri ugaint a thri chant eurdorchawg.
Er i'r nifer uchod fyned i Gattraeth, eto
Ni ddiengis ond tri o wrhydri ffosawd,
Dau gadgi Aeron, a Chynon daerawd,
A minau o'm gwaedffrau gwerth fy ngwenwawd.
Y ddau gad-gi oeddynt Cadraith a Chadlew. Diangodd y bardd oherwydd ei swydd, neu werth ei wenwawd; canys yr oedd trwyddedogaeth i fardd wrth ei swydd i fyned lle yr elai, ac nas dygid noeth arf yn ei erbyn. Er hyny, cafodd y bardd ei ddala, a'i gadwyno mewn daeardy am dymhor. Penill 45:
Ystynawg fy nglin yn y ty daiarin,
Cadwyn haiernin am ben fy neulin.
Achubwyd ef oddiyno trwy ddewrder Cenau fab Llywarch Hen. Penill 46:—
O nerth y cleddyf claer ym hamug
O garchar anwar daiar ym dug,
O gyfle angau, o angar dud,
Cenau fab Llywarch dihafarch drud.
Os cymer y darllenydd drafferth i droi i Eiriadur, gwel ar unwaith feddwl y llinellau uchod. Ar ol hyn, ffodd Aneurin i Gymru at ei frodyr, gan ymnoddi yn Nghôr Cattwg, yn Llanfeithin, yn Morganwg. Yno y cyfansoddodd ef y Gododin. Tebygol fod Taliesin yno yr un pryd, fel yr awgrymir yn penill 45:
Mi wnaf fi, Aneurin, ys gwyr Taliesin,
Ofeg gyfrenin, ganig Ododin,
Cyn gwawr dydd dilin.
Coffeir ei ddiwedd yn y Trioedd fel hyn:—"Tair anfad gyflafan Ynys Prydain Eiddyn mab Eingan a laddawdd Aneurin Gwawdrydd, mydeyrn beirdd," &c. "Tair anfad fwyellawd Ynys Prydain; Bwyellawd Eiddyn yn mhen Aneurin," &c. Gelwir Aneurin yn medeyrn, a mydeyrn beirdd, yn y Trioedd, ond mechdeyrn yw y gair yn iawn;