Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

calon yn mhlaid y ffydd a rodded unwaith i'r saint. Crybwyllir yn Achau'r Saint iddi fod yn wraig i Ynyr o Gaer Gawch, ac mai hi oedd mam Non, yr hon oedd mam Dewi Sant. Ond wrth gyferbynu yr amser y blodeuai Amwn Ddu, gwr Anna, hefo'r pryd yr oedd Dewi Sant yn ei fri, ceir eu bod yn gyfoeswyr o ran, ac felly annichonadwy bod gwraig Amwn yn nain iddo; pe dywedasid mai ail wr Anna oedd Amwn Ddu, buasai yn beth tebycach; ond rywfodd y mae mwy o debygolrwydd mai camgymeriad sydd wedi ymgripio i'r achau. Merch Meirig ab Tewdrig oedd yr Anna hon.

ANNAN. Gwel ANHUN.

ANNAN, ferch Maig Mygotwas, yn ol y Trioedd, oedd un o Dair Gohoyw Rian Ynys Prydain. Y ddwy eraill oeddynt Angharad a Perwyr.

ANNO. Gwel AMO.


ANGAR, fab Caw, rhyfelwr nodedig yn nechreu y chweched cant. Sonir am dano yn Englynion y Clywed:

A glywaist ti a gan Angar
Mab Caw, milwr clodgar,
Bid ton galon gan galar.


ANGHARAD DON FELEN, neu gyda'r lliw melyn, yn ol y Trioedd oedd un o Dair Gohoyw Rian Ynys Prydain. Y ddwy eraill oeddynt Annan a Perwyr.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Anhun ach Gwrthyfer
ar Wicipedia

ANHUN, neu Annun, oedd forwyn i Madryn, trydedd wraig Ynyr o Gaer Gawch yn ol Achau'r Saint, a merch oedd hithau i Gwrthefyr Fendigaid fel Anna ei chwaer. Nid oes dim llawer ar gof a chadw hyd yn oed o chwedlau gwneuthur parth Anhun. Ond dywedir mai pererinio am Enlli yr oedd hi a'i meistres, ac iddynt yn lluddedig un hwyrnos ddod i'r lle a elwir yn awr Trawsfynydd, ac oherwydd mor ddiffygiol oeddynt, gorphwys a wnaethant dros y noson eu dwyoedd dan gysgod perth, a phan gysgasant breuddwydio a wnaethant, a thybio clywed llais soniarus yn galw, "adeiledwch Eglwys yma." A phan ddeffroisant, dweyd eu breuddwyd wrth eu gilydd a wnaethant, a rhyfeddu eu bod en dwy wedi gweled a chlywed yr un peth, a phenderfynu adeiladu a wnaed, ac i'r ddwy hyn y cysegrwyd Eglwys Trawsfynydd. Yr oedd Anhun yn ei blodau yn ystod y pumed cant, ac ni wyddys ei Gwylmabsart.


ANIAN oedd Esgob o enwogrwydd nid bychan yn yr oesoedd canol, ond nid oes dim o'i helynt ar gael heblaw ei fod yn olynydd Cledawg yn Nghadair Dewi. Blodeuai tua diwedd yr wythfed cant.


ANWAS ADEINIOG, un o ryfelwyr y brenin Arthur; ac enwir ef yn Mabinogi Cilhwch ac Olwen, yn mhlith y cyfryw. Sonir am dano hefyd mewn ymddyddan rhwng Arthur, Cai, a Glewlwyd, a welir yn y Myv. Ach. Pa fodd bynag, llawer a dybiant mai person ffugiol ydoedd, a diau fod ei enw yn hyrwyddo y dyb hon.


ANWYL, (PARCH. LEWIS). Awdwr amryw lyfrynau Cymreig. 1. "Y Nefawl Ganllaw, neu yr uniawn ffordd i fynwes Abraham; mewn ychydig o ystyriaethau eglur i gyfarwyddo y cyfeiliornus i'r porthladd dymunol hwnw." 2, "Myfyrdodau Wythnosol; sef myfyrdod am bob dydd yn yr wythnos, yn enwedig amser y Grawys." 3, "Cynghor yr Athraw i Rieni yn nghylch dwyn eu plant i fynu." 4, "Hyfforddiadau eglur i'r ienanc a'r anwybodus, yn cynwys eglurhad hawdd a chryno o Gatechism yr Eglwys; wedi ei gymhwyso i ddeall a choffadwriaeth y rhieni o'r synwyr iselaf; gan Esgob Synge. Ac wedi ei