hanesyddiaeth; a gallai gofio bron bobpeth a ddarllenai. Gwnelai hyn. ef yn gydymaith addysgiadol a difyr. Meddai hefyd ddirnadaeth oleu ar byncau duwinyddol; ac yr oedd yn bregethwr parchus. Prif ddiffyg ei bregethau ydoedd trefn; yn tarddu oddiar y ffaith na byddai efe byth yn eu hysgrifenu oddieithr y penau, gan ymddibynu i raddau helaeth am y gweddill i'r hwyl a gaffai wrth eu traddodi. Ar rai adegau, prin y gallesid credu mai yr un ydoedd â'r hwn a bregethai o'r blaen, mor annysgrifiadwy o nerthol nes ysgubo pobpeth o'i flaen. Bu yn ffyddlawn a llafurus yn y weinidogaeth am chwech a deugain o flynyddau; ac yn ystod yr amser hwn symudwyd ef o'r naill fan i'r llall un ar hugain o weithiau. Yn 1854, oherwydd nerth yn pallu, a phob arwyddion nad pell awr yr ymddatodiad, rhoddodd ei swydd i fynu er mwyn ymneillduo i gael ychydig seibiant ar derfyn ei ddyddiau. Treuliodd ychydig o'i amser gweddill hwn yn Rhuthyn, a symudodd oddiyno i Dreffynon. Ni bu ei orphwysdra ond byr, os iawn ei alw yn orphwysdra, canys hyd y parhaodd ei nerth yr oedd efe yn ddiwyd beunydd yn rhyw ran o winllan ei Arglwydd. Pa fodd bynag, erbyn terfyn 1856, yr oedd pob arwyddion nad neppell y diwedd; ymollyugai ei natur yn raddol, a Ionawr 23ain, 1857, gollyngwyd yr enaid oddiwrth ei waith at ei wobr. Ei air olaf ydoedd, "Y mae yr oll yn oleu a disglaer o fy mlaen." Claddwyd ef yn Mynwent Newydd Treffynon, a dangosodd masnachwyr y dref eu parch i'w goffadwriaeth trwy gaeadlenu eu ffenestri; ac anfynych y gwelwyd yn y parthau hyny angladd mor lluosog. Dyma amlinelliad o fywyd gwr y dywedodd un a'i hadwaenai yn dda am dano, "Anwyl by name,—Anwyl by nature."
(ALLEN), EVAN OWEN. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Pant y Llin, gerllaw Llanrwst, yn y flwyddyn 1805. Amaethwyr cyfrifol oeddynt ei rieni; ac ystyrid fod y teulu oll yn bobl o gyneddfau cryfion. Ysgrifenodd lawer i'r hen Seren Gomer a chyhoeddiadau eraill i amddiffyn rhyddid gwladol a chrefyddol. Y mae yr ychydig ddarnau a adawodd o'i ol mewn llawysgrifen yn profi hefyd ei fod yn meddu yr awen wir; ac yn peri i ni resynu na buasai wedi ymarfer chwaneg â'r ddawn hono. Bu farw yn Rhutbyn, Rhagfyr 18fed, 1852, a gorwedd ei lwch wrth gapel y Bedyddwyr yn Llanfwrog. Cymerasom a ganlyn o'i ysgriflyfr:—
SIOMIANT.
Ymdeithydd tlawd i Ffair y Rhos
Foregwaith teg, o'i unig gell
Gychwynai, tra y wawrddydd dlos
Gyfarchai y Gorllewin pell;
Boreufwyd idd ei feddwl gwan
Fu cathl ber cerddorion llwyn,
A'i ysbryd isel godid pan
Fyfyriai radau'i Grewr mwyn.
Ond Och! pan prin yn ngwydd y Rhos,
Yr wybren glir a ddual'n brudd,
Ac ebrwydd iawn adchwela nos,
Pan nad oedd eto ond dechreu dydd!
Y fellten gerth ag erchyll roch
A rwygai'r cwmwl du yn gant,
Ac adsain y taranau croch
A siglent sylfaen bryn a nant!
Ac yna daeth y gawod drom
Sef DYLIF, nid dyferion man;
A'r truan ar y gefnen lom
Heb gysgod craig-heb dy-heb dan;
Darfyddai nerth y teithydd gwan,
Y gerth ystorm a'i curai i lawr.
A churid ei anfarwol ran
I ddylif tragwyddoldeb mawr!
Un wedd yw dyn yn dechreu'i daith
Yn fore i ffair pleserau'r byd,
Holl wenau anian yn eu hiaith
Addawant ddiwrnod heulawg clyd;
Ond mynych iawn yn ngwydd y nwy',
Y cyfyd rhyw ystormydd erch,
Ac odid fawr na churant hwy
Yn ddrylliau holl obeithion serch.
ARAWN, a elwir yn Mabinogi Pwyll Pendefig Dyfed, yn frenin Annwn.