ARDDUN BENASGELL oedd un o ferched Pabo Post Prydain. Bu'n wraig i Frochwel Ysgythrog. Dywed y Cambrian Biography fod Eglwysi wedi cael eu cyflwyno iddi; ond ni ddywed yn mha le na pha rai oeddynt. Yr oedd yn chwaer i Dunawd yr hwn a fu'n cynadleddu hefog Awstin Fynach. Yr oedd yn ei blodau, yn ol eithaf tyb, yn ystod y rhan flaenaf o'r seithfed cant. Bernir fod Dôl Arddun gerllaw Castell Careinion wedi cael yr enw hwn oddiwrthi.
AREGWEDD FOEDDAWG oedd ferch i Afarwy ab Lludd. Mynegir am dani yn y Trioedd fel un a fu yn achlysur bradwriaethol o gaethiwed Caradawg, neu Caractacus, yr hwn, wedi ei orchfygu gan y Rhufeiniaid dan Ostorus, yn y flwyddyn 51, a diangodd ati hi am nodded, ac a roddwyd i fynu iddynt ganddi hi mewn cadwynau. Yr oedd hi yn frenhines y Brigantwys, ac yn ddynes o gymeriad llygredig, canys, wedi dianrhydeddu ei gwr Venectius trwy syrthio mewn cariad â Velocatus, un o weision ei gwr, cymerodd rhyfel wladol le, yn yr hyn y bu ei gwr yn llwyddianus yn y dechreu, ond daeth y Rhufeiniaid i'w chynorthwyo, fel gwobr am roddi Caradawg i fynu iddynt hwy, yr hyn a'i hachubodd hi rhag cosb gyfiawn ei gwaradwydd.
ARGAD, bardd a flodeuai yn seithfed cant, eithr nid oes o'i waith ddim ar gael.
ARIANROD, ferch Beli, ydoedd wraig i Luaws ab Nwyfre, a chwaer i'r enwog Gaswallawn. Ei dau fab hi, Gwenwynwyn a Gwaner, a aethant gyda Caswallawn ar ei hynt filwrol i dir Gwasgwyn, i adenill ei ordderch wraig Fflur, merch Mygnach Gorr, oddiar Murchan, tywysog Llydaw. Gwel Trioedd 14, 102.
ARIANROD, ferch Don, a elwir yn y Trioedd yn un o "Dair Gwenrian Ynys Prydain;" y ddwy eraill oeddynt Gwen ferch Cywryd, a Creiriog ferch Ceridwen. Fel ei brodyr, Gilfaethwy a Gwydion ab Don, sonir llawer am dani yn y rhamantau ffugiol Cymreig, yn enwedig yn Mabinogi Math ab Mathonwy; gwel Guest's Mabinogion, a Cymru Fu, tu dal. 157. Caer arianrod, yn ol y Dr. W. O. Pughe, oedd yr hen enw Cymreig ar y twr sér a adwaenir gan ddysgedigion wrth yr enw Corona Borealis. Y mae Davies yn Mythology of the Druids yn eglur ddangos mai Arianod oedd yn cynrychioli yr Enfys yn hen gyfundrefn ser—dduwiaeth ein hynafiaid.
ARIANWEN, merch neu wyres Brychan Brycheiniog, oedd un o'r teulu lluosog hwnw a ffurfiasant y gwelygordd arbenig o Saint. Priododd Iorwerth Hirflaidd, tywysog Powys, a mab iddynt hwy oedd Caenawg, sant cyfryngol Clog-Caenawg yn sir Ddinbych.
ARONAN. Bardd Selyf ab Cynan Garwyn yn y seithfed ganrif. Gelwir ef yn un o "Dri Bardd Gwaywrudd Ynys Prydain," a chysylltir ef â Dygynnelw bardd Urien, ac Afan Ferddig bardd Cadwallawn ab Cadfan.—Trioedd, Cyfres ii.
ARATHAL, a elwir gan Seiffrey o Fynwy, Arthgallgo, oedd fab i Morfudd, ac a ddilynodd ei frawd Gorfyniawn ar orsedd y Brutaniaid. Yn ol y Brut, yr oedd ar y cyntaf yn dywysog o gymeriad lled wael, canys efe a lethodd yr uwch—bendefigion ac a gyfododd rai o'r gwehilion i anrhydedd, ac a ysbeiliodd y cyfoethogion trwy gribddeiliaeth, fel y darfu i'r cyfoethogion gyfodi yn ei erbyn, a'i ddiorseddu, a gosod ei frawd Erlidyr, a gyfenwid y Tosturiol, ar yr orsedd. Wedi teyrnasu pum' mlynedd rhoddodd Erlidyr y frenhiniaeth yn ol i'w frawd Arthal, yr hwn oedd erbyn hyn wedi gadael ei arferion drwg, a pharhaodd i deyrnasu yn gyfiawn am ddeng mlynedd wedi hyn hyd ei farwolaeth.