Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ARTHANAD, mab Gwrthmwl Wledig, yr hwn a gofnodir yn y Trioedd yn cael ei ddwyn gyda'i frawd Achlen ar farch hynod i ddial marwolaeth ei dad.

ARTHEN, mab Sibsyllt ab Clydawg, oedd frenin neu arglwydd Ceredigion. Bu farw yn y flwyddyn 894.


ARTHEN ydoedd bedwerydd mab Brychan Brycheiniog, a dywedir yn Llawysgrif Thomas Truman fod unwaith Eglwys wedi cael ei chyflwyno iddo yn Ngwaenllwg, Mynwy, ac i'r unrhyw gael ei dinystrio gan y Saeson Paganaidd. Dywed yr un cofnodydd yn mhellach i Arthen gael ei ferthyru gan yr unrhyw giwaid yn Ngheredigion, ac mai yn Rhiwarthen gerllaw Aberystwyth y cymerth hyny le. Eraill a soniant iddo gael ei gladdu yn Ynys Manaw, cnd teifl y Cadeirdraw Rees awgrym cyfeiriadol at Ynys Fôn, ac y mae yno hyd y dydd hwn le a elwir Trefarthen, ar fin Afon Menai. Eraill a haerant mai yn Merthyr Cyflefyr y merthyrwyd ef: a bod y lle hwnw yn Ngheredigion. Mae lle o'r enw Cefnarthen yn agos i Lanymddyfri.


ARTHFAEL HEN ydoedd fab i Rhys, arglwydd Morganwg. Efe a briododd Ceinwen, ferch i Arthen, arglwydd Ceredigion; a phan, oblegyd ei henaint, y daeth llywodraethu y Dywysogaeth yn flinderus iddo, efe a'i trosglwyddodd i'w frawd Hywel. Bu fyw flynyddau wedi hyn, a bu farw yn y flwyddyn 895, yn 120 oed. Yr oedd ei frawd Hywel wedi marw y flwyddyn o'r blaen, yn yr oedran hynach o 124.

ARTHUR. Y mae hanes y gwron rhyfeddol hwn yn ymranu yn naturiol yn ddwy ran; un yn cynwys Arthur yr hanesyddion, a'r llal Arthur y rhamantwyr: ond gorchwyl digon afrwydd yw ceisio dadrys y ffaith oddiwrth y ffug, a phenderfynu pa le y mae yr hanes yn diweddu a'r chwedl yn dechreu, gan mor gywrain y maent wedi eu cyfrodeddu â'u gilydd. Ychydig, mewn cymhariaeth, yw y ffeithiau sy genym yn nghylch y gwir Arthur; ac nid rhyfedd hyn, canys ychydig yn deneu o gofnodau perthynol i'r oes yr oedd ef yn byw ynddi sydd wedi dianc rhag traflwnc anniwall amser a dinystr gelynol dwylaw, a chyrhaedd yn ddiogel hyd ein hamser ni; ac nid oes lle i ammheu na chollwyd llawer o'r hanes gwirioneddol yn ystod yr amser yr oedd holl wledydd Cred wedi pendroni gan yr adroddiadau yn nghylch ei orchestion ffugiol

Yn ol yr hanesion y gellir ymddibynu oreu ar eu cywirdeb, Arthur ydoedd fab i Uthr Bendragon; ac yr oedd Uthr yn fab i Gystenyn Fendigaid, ac yn frawd i Emrys Wledig, yr hwn a oliannwyd ganddo megys brenin y Prydeiniaid o gylch O.C. 500. Nid yw yr holl achau, fel y gallesid yn hawdd dysgwyl, yn cytuno mewn perthynas i fonedd Arthur. Mewn un ysgriflyfr, rhoddir ei achres yn y wedd ganlynol, ac ymddengys cymaint o debygolrwydd o'i thu ag un o'r lleill, os nid mwy:—"Arthur ab Uthr, ab Cystenin Fendigaid, ab Cynor (neu Cynfor), ab Tudwal, ab Morfawr, ab cynan [Meiriadog], ab Eudaf, ab Caradog, Brân, ab Llyr Llediaith." Dywed y Dr. W. O. Pughe mai mab ydoedd Arthur i Meirig ab Tewdrig, un o dywysogion Deheubarth; ond y mae y Brutiau, yn gystal a'r hanesion mwy coeliadwy, yn erbyn yr ach hon; a dengys y Cadeirdraw Rees, yn ei waith godigog y Welsh Saints, a hyny i gryn foddlonrwydd, mai camsyniad yw hyn, wedi tarddu, mae yn dra thebyg, o gamgymeryd Arthur ab Uthr yn lle Arthur ab Athrwys, ab Ceneu, ab Coel, yr hwn oedd un o benaethiaid y Brython Gogleddol, ac yn byw o gylch yr un amser. Gwyddis yn dda ddigon fod yr holl ramantau yn galw Arthur yn fab i Uthr Ben-