dragon; ac nid ymddengys fod sail ddigonol i anmheu eu cywirdeb yn hyn o beth.
Mam Arthur ydoedd Eigr, inerch Amlawdd Wledig, tywysog Prydeiniaid y Gogledd, yr hwn y mae son am dano yn Mabinogi Cilhwch ac Olwen. Yr Eigr hon yw Igerna y Lladin, ac Ygraine y rhamantau Ffrengig, y rhai a'i galwant hi y wraig brydferthaf yn Ynys Prydain. Yn ol y Brutiau, gwraig ydoedd Eigr ar y cyntaf i Gwrlais, Iarll Cernyw, yr hon a ddirfawr chwenychwyd gan Uthr; ac adroddant fwy na digon ddygwyddiadau dychymygol, er mwyn dangos pa fodd y daeth hi yn wraig i Uthr, ac felly yn fam i Arthur. Nid yw hyn ond peth a fuasem yn naturiol yn ei ddysgwyl; canys buesai yn annheilwng o grebwyll y rhamantwyr, pe dygasent Arthur i'r chwareufwrdd fel marwolion yn gyffredin. Rhaid gofalu am dipyn o'r rhyfeddol a'r rhamantus ar ei gyfer hyd yn nod cyn ei eni.
Dywedir yn rhai o'r hen gofysgrifau fod gan Arthur chwaer o'r enw Anna, yr hon a ymbriododd â Llew ab Cynfarch, brawd Urien Rheged, ac mai hi ydoedd mam Medrod, yr hwn a drodd mor anffyddlawn a bradwrus i'w ewythr a'i dywysog, ac a fu achos o'i dranc yn nghad drychinebus Camlan.
Nis gwyddis pa le y ganwyd Arthur; na phra bryd, gyda dilysrwydd y digwyddodd hyny. Y dyb fwyaf tebygol yw, iddo gael ei eni yn Nyfnaint neu yn Ngheryw, neu ar y cyffiniau hyny, o gylch diwedd y 5med ganrif. Dywed rhai, ac yn eu plith Griffydd ab Arthur (Sisffrai o Fynwy), mai yn Nhintagel, neu Dintagol, yn Ngheryw, y cafodd ei eni: ond y mae hyn, fel llawer peth arall a adroddir am dano, yn gyfryw ag a eill fod yn wirionedd, ond heb un prawf neullduol o'i blaid. Y mae yn werth sylwi fod adfeilion hen Gastell Tintagel yn dangos yn amlwg ddigon iddo fod, mewn oesoedd a aethant heibio, yn lle o fawr gadernid ac enwogrwydd. Saif yr hen furddyn ar ben craig uchel, yr hon sydd yn ymestyn allan i'r môr, gan yr hwn y mae agos a chael ei hamgylchynu. Sonia Carew a Norden hefyd am dano megys lle braidd anhygyrch; a geilw Leland ef yn amddiffynfa ryfeddol ei chadernid, ac wedi ei hadeiladu ar le oedd bron yn anoresgynadwy. Y mae Tintagel o fewn cantref Lesnewth (Llys Newydd), ac nid pell o hono yw bwrdeisdref Bossiney. Geill y lle hwn, cystal ag un man y gwyddis am dano, fod yn enidfan i Arthur, Beth bynag, dengys y Trioedd, yn gystal a'r rhamantau, fod cysylltiad neillduol rhyngddo ef a Chernyw; ac ni ddylid annghofio mai yno yr oedd Celliwig, yr hwn a nodir yn fynych megys un o'i brif lysoedd ef.
Diau fod Arthur yn hanu o un o linachau clodforusaf yr ynys yn yr oes hono; er bod un ymadrodd yn ngwaith Nennius fel yn awgrymu fod "amryw yn ardderchocach nag ef" (multi ipso nobiliores essent); sef, y mae yn debygol, fel y sylwa Carnhuanawc, o ran ei enedigaeth; ond dengys awdwr yr Eminent Welshmen (d.g. ARTHUR) y geill hyn fod yn cyfeirio ato megys un o feibion ieuaf i dywysog nad oedd ei hawl i benaduriaeth gyffredinol yn gyfryw ag a addefid gyda boddlonrwydd gan bawb o'r tywysogion eraill. Prawf yr holl achau yn ddigon boddhaol ei fod ef o freninol waedoliaeth, ac yn disgyn, lin o lin, o dywysogion a fuasent rymus a chlodfawr. Nid mab hynaf Uthr ydoedd, ac ar farwolaeth ei frawd y cafodd feddiant o orsedd ei hynafiaid. Wrth gymharu yr achau a hen gofysgrifau hanesol eraill, canfyddir fod teulu Arthur wedi ymgysylltu trwy briodas â rhai o dywysogion Gwent neu Essyllwg; a rhydd hyn drywydd i ni ar ei