berthynas ef â Deheubarth Cymru; ac nid yw yn annhebyg mai y gyfathrach hon a fu yn achos iddo ymsefydlu yn Nghaerlleon ar Wysg, gan yr ymddengys fod y ddinas hono y pryd hwnw yn un o'r rhai mwyaf a phwysicaf yn yr holl Dywysogaeth. Nid oes achos gwadu cysylltiad Arthur â Chaerlleon yn unig oherwydd bod rhamantwyr y canoloesau wedi gwneuthur gormod o'r dref hono, yn gystal ag o'r gwron y dywedir ei bod hi yn brifddinas iddo. Arliwio ac nid ffugio ffaith a wnaeth y rhamantwyr yn y peth hwn, megys ag mewn llawer o bethau eraill; canys, yn gyffredin, goruch-adeiladaeth fawrwych yw rhamant wedi ei chodi ar symlig ffaith a gwirionedd.
Am flynyddoedd mebyd Arthur, nid oes genym ddim crybwylliad. Diau gael ohono ei addysgu yn y cyfryw wybodau ag a ddysgid yn yr oes hono i feibion tywysogion; ac yn mhlith y penaf o'r rhai hyn mae yn ddilys fod arfer trin y cleddyf a llywio byddinoedd ar faes y gad. Dyna ddull yr oes, y wlad, a'r genedl; ac amlwg yw, oni buasai ei fod wedi dangos mawr fedrusrwydd mewn cadofyddiaeth megys blaenor, yn gystal a dewrwychder megys milwr, ni ddyrchafasid mohono i fod yn gatteyrn y Prydeiniaid mewn cyfnod mor bwysig yn eu hanesyddiaeth.
Er bod yr ben Brydeiniaid, er yr amser cyntaf y mae genym son am danynt, yn arfer cael eu llywodraethu gan fan dywysogion neu benaethiaid annibynol, a'r rhai hyny yn rhy fynych yn ben yn nghad a'u gilydd; eto pan ymosodid arnynt gan elyn cyffredin (megys y Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid), annghofient eu mân ymrysonau, ac ymanent i ymladd yn wrol o dan faner un llywydd neu benciwdod cyffredinol, yr hwn a elw y Trioedd yn gatteyrn, neu frenin yn amser cad a rhyfel, pan ymosodid ar y wlad gan estron genedl; a chydymdrechent i osod terfyn ar yr ormes. Sonia y Trioedd am dri o wroniaid a gawsant eu hethol i'r fath swydd mewn amser o gyfyngder:—"Tri phrif gatteyrn Ynys Prydain: Caswallon ab Beli; Gweirydd ab Cynfelyn Wledig; a Charadawg ab Brân ab Llyr Llediaith." (Cyfres iii 24). Y mae un arall o'r Trioedd yn cyfeirio at yr un peth. Tri Unben Dygynnull Ynys Prydain: Cyntaf, Prydain ab Aedd Mawr, pan roddes deyrnedd ddosbarthus ar Ynys Prydain a'i rhagynysoedd; ail, Caradawg ab Brân, pan ddoded arnaw ef gatteyrnedd holl Ynys Prydain, er attal cyrch gwŷr Rhufain; ac Owain ab Macsen Wledig, pan gawsant y Cymry deyrnedd ym mraint eu cenedl eu hunain y gan yr Ymherawdr Rhufain: sef a'u gelwir y rhai'n y Tri Unben Dygynull, am eu breiniaw felly y gan ddygynnull gwlad a gorwlad dan holl derfynau cenedl y Cymry, a chynnal dygynull ym mhob cyfoeth, a chwmmwd, a chantref, yn Ynys Prydain a'i rhagynysoedd." (Cyfres iii. 34.)
Wedi ymadael o luoedd Rhufain â'r Ynys, nid hir y bu y Cymry heb gael eu gormesu gan elynion eraill, gwaeth, os oedd modd, na'r rhai a gefnasent arnynt. Hwn oedd gormesgyrch y Sacsoniaid, y rhai a heidiasant, fintai ar ol mintai, i'r Ynys hon tros For Tawch, o ardaloedd gogleddig yr Almaen. Buan y canfu'r brodorion, y rhai y pryd hwn oeddynt yn ammharod i ryfel, nad oedd gobaith heb gydwaith a chydymdrech i lwyddo yn eu herbyn; ac yn eu cyfyngder, etholasant Arthur i fod yn bencadlyw arnynt megys y gwnaethant dan amgylchiadau cyffelyb â Chaswallon a Charadog. Rhodded catteyrnedd yr Ynys ar Arthur; ac yr ydym yn darllen yn yr hanesion, cystal a'r rhamantau, fod breninoedd eraill yn ymladd o dano. Y faith hon, mae yn dra thebygol, yw gwreiddyn yr aneirif chwedlau yn nghylch yr amryw