Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r fath, yn 537 y digwyddodd, pum' mlynedd yn gynarach na'r amseriad cyffredin:—537, Gwaith Camlan, yn yr hwn y cydsyrthiodd Arthur a Medrawd; ac y bu marwoldeb mawr yn Ynys Prydain ac Iwerddon." Mewn ysgrif arall o'r un Cofnodau, rhoddir yr hanes beth yn helaethach, fel hyn:—"Brwydr Camlan, yn yr hon yr ardderchog Arthur, brenin y Brython, a Modred ei fradwr, a gyd. syrthiasant, gan yr archollion a gafodd y naill gan y llall." Yn gyffredin, priodolir yr achos o'r frwydr hon i fradwriaeth ac anffyddlondeb Medrod, neu Modred, mab Llew ab Cynfarch, a nai fab chwaer i Arthur. Ymunodd Medrod â'r Saison yn erbyn ei ewythr, a thrwy frad a gwrthryfel ceisiodd ddwyn ei orsedd, a chymeryd meddiant o honi. Fel hyn yr adroddir y trychineb a'r achos ohono yn y Trioedd:

"Triwyr gwarth a fu yn Ynys Prydain: * *Trydydd, gwaethaf fu Fedrawd, pan edewis Arthur lywodraeth Ynys Prydain ganthaw, pan aeth yntau drwy for yn erbyn Lles, Amherawdr Rhufain, a anfonasai genadau at Arthur hyd yng Nghaer Llion, i erchi teyrnged iddaw o'r ynys hon, ac i wŷr Rhufain, ar y mesur y talpwyd i Gadwallawn fab Beli hyd yn oes Cystenyn Fendigaid, taid Arthur. Sef yr ateb a roddes Arthur i genadan yr amherawdr, nad oedd well y dylyai wŷr Rhufain deyrnged i wŷr Ynys Prydain, nag y dylyai wŷr Ynys Prydain iddynt hwythau. Canys Brân fab Dyfnwal, a Chystenyn fab Elen, a fuasynt amherodron yn Rhufain, a dau wr o'r ynys hon oeddynt. Ac yna y lluyddodd Arthur orddetholwyr ei gyfoeth drwy for yn erbyn yr amherawdr; ac y cyfarfuant y tu hwnt i Fynydd Mynnau; ac aneirif o naddynt o bob parth a las y dydd hwnw.· Ac yn y diwedd y cyfarfu Arthur a'r amherawdwr, ac Arthur a'i Haddawdd ac yno y llas gorengwyr Arthur. A phan gygleu Fedrawd wahanu nifer Arthur, y dymchwelodd yntau yn erbyn Arthur, ac y dyunawdd Seison, Ffichtiaid, ac Ysgotiaid ag ef, i gadw yr ynys hon; ac yna y bu waith Camlan y rhwng Arthur a Medrawd, ac y İladdawdd Arthur Fedrawd, ac y brathwyd Arthur yn angeuol, ac o hyny y bu farw; ac mewn plas yn Ynys Afallach y claddwyd." (Cyfres ii 6.) Mewn un arall o'r Trioedd adroddir yr un ddychwaen, rywbeth yn wahanol, yn y wedd ganlynol:—

"Medrawd ab Llew ab Cynfarch, a gafas deyrnedd Ynys Prydain yn adneu-fraint, tra fai Arthur yn gwrthladd gwyr Rhufain y draw i Fynydd Mynnau, pan fynynt attychwel yn ormes i'r ynys hon. Ac yno y llas goreuon gwyr Arthur; a phan glybu Medrawd, ymgystlynu a'r Seison a orug, a pheri ymladd y Gad Gamlan, lle y llas Arthur a'i wŷr, namyn tri; ac o hyny ydd aethant y Seison yn ormesgyrch ar deyrnedd Ynys Prydain, a lladd a deol o genedl y Cymry y neb nad elai ganddynt, ac ni chaid namyn ciwdodau gwlad Gymru a fynynt wrthladd gormes y Seison: a gwyr Rhufain yn cadarnhau braint a thiroedd i'r Seison yn Ynys Prydain, mal pai y naill genedl ormes yn ymddyweddiaw â'r llall, onid aeth iddynt wŷr Rhufain, mal y modd y llosges cenfigen ei pherchen, o ddyfod yr Ormes Ddu arnynt." (Cyfres iii. 100.

Mewn ereill o'r Trioedd priodolir Cad Gamlan i ymryson Gwenhwyfar a Gwenhwyfach, gwragedd Arthur; ac oherwydd paham cyfrifir hi yn mysg yr "ofergadau," sef cadau a gawsant eu dechreuad mewn amgylchiadau dibwys a distadl.

"Tair ofergad Ynys Prydain:—Un fu Gad Goddau; sef y gwnaethpwyd o achaws gast, a'r iwrch fochyll, a chornicyll; yr ail fu