yn ol pob tebygolrwydd, nad oedd wedi cyrhaedd canol oed, a chedwid ei wylmabsant ar y dydd hwnw yn Llanelwy am lawer oes. Claddwyd ef yn ei eglwys ei hun. Y mae eglwys Llanasa yn sir Fflint wedi cael ei chyflwyno iddo. Cofnodir dywediad o'i eiddo, sef
"Y neb a ludd ddysgu crefydd,
Trwy genfigen ettyl rybudd."
ASCLEPIODOTUS, iarll Cernyw, yr hwn a ddewiswyd gan y Prydeiniaid yn frenin arnynt pan yn cael eu gormesu gan Allectus, llywydd Rhufeinig Llundain y pryd hwnw. Tan ei lywyddiaeth ef y Prydeiniaid a ymosodasant ar ddinas eu gelyn, a phan ddynesasant yr oedd Allectus yn aberthu i'w dduwiau. Pa fodd bynag, cymerodd brwydr galed le, yn mha un y syrthiodd Allectus, a'i ddilynwyr a laddwyd neu a ffoisant. Yna Livius Gallus a gauodd ddorau y ddinas gan ymdrechu ei harbed; eithr Asclepiodotus a warchaeodd ar y lle, ac wedi derbyn adgyfnerthion, a'i cymerth trwy ruthr, a'r Rhufeiniaid oll a roddwyd i fin y cleddyf. Trwy hyn, sicrhaodd Asclepiodotus ei hun yn frenin, ac efe a deyrnasodd ddeng mlynedd, pryd y cododd Coel Coedebawg mewn gwrthryfel yn ei erbyn, ac a'i lladdodd mewn brwydr.— Brutiau Cymreig.
ASSER MENYW, neu Asser Menevensis, oedd fynach tra dysgedig yn niwedd y nawfed a dechreu y degfed cant. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Nhŷ Ddewi, a dywedir mai ei athraw oedd y trylen Ioan Erigena. Ymddengys fod Asser yn deilliaw o wehelyth tywysogaidd, sef oddiwrth Rhodri Mawr. Pan oedd yn ieuanc, rhoes arwyddion eglur nad dyn cyffredin fyddai, a sylweddodd hyny drachefn yn ystod ei fywyd gwir wasanaethgar. Cafodd nodded archesgob Tŷ Ddewi pan yn dechreu ar daith ei fywyd, yr hyn a fu'n achles ragorol iddo. Yr oedd yr archesgob Nofis yn gâr agos i Asser, ac felly naturiol oedd iddo fod yn gefn da. Aeth si ar led am ddysg a duwioldeb Asser, a chlybu Alfred Fawr, brenin Lloegr, am ei rinweddau, a gyru a wnaeth i Dŷ Ddewi genadau i erfyn arno dalu ymweliad â'i lys ef. Ar ol cryn ymbil, myned a wnaeth, a chafodd dderbyniad mwyaf croesawgar gan y brenin. Cymerth hyn le yn nghylch y flwyddyn O.C. 880. Yn swydd Wilts yr oedd y llys yn aros y pryd hwn, mewn lle o'r enw Dene. Ar ol tario enyd yn y lle, bwriadodd Asser ddychwelyd i'w fynachlog yn Nghymru, ond Alfred ni fynai glywed son am hyn, ac erfyn arno'n galed a wnaeth am iddo aros o hyny allan yn ei lys; ond ni wnai Asser hyny gan yr ystyriai fod gan y wlad a'i magodd hawl cyflawn i bob dysg a dawn a feddai, ac mai ei ddyledswydd pendant oedd dychwelyd a gweithio yn yr eglwys yn ngwlad ei enedigaeth. Ceisiodd y brenin ganddo wed'yn ranu ei amser cyd—rhwng y llys a'i fynachlog yn Nhŷ Ddewi, gan dario chwe' mis yn y naill a'r un faint yn y llall, ond ni chydsyniai Asser â hyn ychwaith, hyd nes y cai gydymgynghori hefo'i frodyr yn y fynachlog. Pan oedd yn d'od adref oddiwrth Alfred, aeth yn sâl, a bu dan orfod aros yn Nghaer Wynt am flwyddyn gron heb syflyd, a phan ddaeth yn dipyn bach yn well, cefnodd ar y lle ac unionodd am Dŷ Ddewi. Rhoes y pwnc o flaen ei frodyr, a chymhellasant hwy ef i fyned, oblegyd yr oeddynt hwy a'u llygaid yn eu penau. Yr oedd Hyfaidd tua'r pryd hwn yn goresgyn ac yn gorthrymu eu tiroedd yn y De, a da oedd cael cefn fel Alfred Fawr i wastrodedd cenaw creulon cyfrwys fel Hyfaidd. Cynghorasant ef i fyned, ac felly y bu; ymaith yr aeth, gan lwyr fwriadu aros ond tri mis gydag Alfred,