Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Filwriad yn y fyddin ar hyd ystod y rhyfel Americanaidd; ac wedi hyny a fu yn aelod o'r Senedd dros Wellington; ac ewythr iddo, frawd i'w dad, oedd y diweddar Syr John Aubrey, Bar., D.C.L.

BACH, mab ydoedd i Carwed, tywysog gogleddol a ddaeth i waered i Wynedd yn ystod y seithfed cant, ac a ymroes i fyw yn grefyddol. Dywedir mai efe a sefydlodd Eglwys Fach, yn swydd Dinbych, ac y mae traddodiad yn son mai yn y Clochdy yno y trigianai.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Thomas Baddy
ar Wicipedia

BADDY (PARCH. THOMAS), cyfieithydd amrai fàn lyfrynau i'r Gymraeg, oedd frodor o Ogledd Cymru. Ymsefydlodd fel gweinidog ar eglwys Bresbyteraidd Dinbych tua'r flwyddyn 1693, a bu yn gweinidogaethu yno hyd ei farwolaeth yn 1729. Ei lyfrau cyfieithiedig oeddynt —1. "Hymnau Sacramentaidd, 1703;" 2. "Doolittle ar Swper yr Arglwydd, 1703;" 3. "Wadsworth ar Hunan-ymholiad, 1713;" 4. "Cynghaneddiad o Ganiadau Solomon, gyda Nodiadau Eglurhaol, 1725;" 5. "Dr. D. Williams ar wagedd Mebyd ac Ieuenctyd, 1727." —Dr. Rees' Nonconformity.


BAGLAN, oedd fab i Dingad ab Nudd Hael, o Tefrian, ferch Llewddyn Lluyddog, o ddinas Eiddin yn yr Alban, sef Edinburgh. Dywedir mai yn Nghoed Alun, yn Arfon, y trefai, ac iddo ef a'i frodyr Gwytherin, Tegwyn, Tefriog, a'u chwaer Aleri, ymuno a Bangor Enlli. Dyna ddywed Bonedd y Saint am dano, ac iddo ef mi a dybygaf y cyflwynwyd Llanfaglan yn Arfon, oblegid y mae ei enw eisoes wedi cael ei gysylltu hefo Maenor Alun, ac yn y faenoriaeth hono ar lan afon Menai y saif Llanfaglan. Blodeuai yn gynar yn y chweched cant.


BAGLAN. Mab ydoedd ef i Ithel Hael, tywysog o Lydaw, a brawd i Mael, Ethrais, Tanwg, Sulien, Tegwyn, Llewin, Llynab, Tegai, Trillo, Fflewin, Gredifael, Twrog, "a'u heglwysi yn Ngwynedd, lle buant yn fawr eu dwyfoldeb a dedwydd eu buchedd." Yr oedd y rhai hyn yn geraint i Gadfan, ac yn deilliaw o Emyr Llydaw. Tueddir fi yn lled fawr i goelio, mai chwaer i Emyr oedd gwraig Ithel Hael, a bod ei blant felly yn gefndryd hefo Chadfan, oblegyd Gwen Teir—bron ei fam, yr hon oedd ferch i Emyr Llydaw. Mewn un o Achau'r Saint ni sonir am rai ag sydd yn y rhestr hon. Y mae bron yn annichonadwy weithian fedru penderfynu i ba un o'r ddau sant y mae'r eglwysydd yn Arfon a Morganwg wedi cael eu cyflwyno; oblegyd "yng Ngwynedd" yr oedd eglwysi meibion Ithel Hael, ebe'r Cofion, ac yno mae Llanau Twrog a Tanwg, Tegai a Llechid, Fflewin a Gredifael, &c., ac y mae'r hen ysgrifau yn rhoddi cyflwyniad y naill le fel y llall i bob un o'r ddau. Yr oeddynt eu deuoedd yn gyfoeswyr, ac yn eu blodau yn y chweched cant.


BAKER, (DAVID), a anwyd yn y Fenni, yn sir Fynwy, yn y flwyddyn 1575. Goruchwyliwr ystâd Arglwydd Fenni, ydoedd ei dad; ac yr oedd ei fam yn chwaer i'r Dr. David Lewis, barnwr y Llyngeslys. Cafodd egwyddorion ei ddysgeidiaeth yn Christ's Hospital yn Llundain, ac oddiyno efe a ymsymudodd i Neuadd Broadgate, Rhydychain, yn y flwyddyn 1590. Yr oedd bwriad ei dad ei ddwyn i fynu i'r Eglwys Sefydledig, ond gan i ryw anhawsderau luddias, efe a anfonwyd i efrydu y gyfraith, i'r Middle Temple cyn cyraedd graddau. Efrydodd y gyfraith yn ddiwyd, gyda phob arwyddion o oes lwyddianus. Yr oedd y pryd hyn yn cael ei aflonyddu gan dybiau Atheistaidd; ond darfu i waredigaeth ragluniaethol o berygl anfad weithio ynddo gyfnewidiad iachusol; a bu yn nodedig mewn ymroddiad crefyddol hyd ddiwedd ei oes. Mewn canlyniad i ryw lyfrau pabaidd syrthio i'w ddwylaw, efe a