Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd cyngrheiriol, geisio goresgyn Ewrop. Yr oedd y genedl yn mwynhau tawelwch gartref—y deyrnwialen yn cael ei llywio gan law erthol,—llu dirfawr yn hiraethu am rywbeth i'w wneuthur, y rhai yr oedd yn beryglus ymyru a'u huchel-geisiadau—y trosglwydd-longau ar yr afon Dafwys; Gal yn cael ei dryllio gan fân-ymbleidiau, a phobl Umbria yn Ngogledd yr Eidal ond disgwyl yn unig am weled baner fawr eu hiliogaeth—sef y Ddraig Goch, wedi ei dadblygu ar grib yr Alpau, cyn cyfodi ac amddiffyn eu hen rydd-freintiau. Yn ganlynol, tiriodd y fyddin arfog, yr hon oedd gynwysedig o 300,000 o wyr, wrth enau afon y Seine. Un frwydr ar wastadedd Tours a benderfynodd dynged Gal. Dinas ar ol dinas wedi blino ar ymrafaelion gwladol y rhai nid arweinient at un dyben llesol, a dderbyniasant yn llawen yr oruchafiaeth yr oeddynt hwy yn ei ddisgwyl a ddygai yn nglyn a hi fendith y buont cyhyd yn ddieithriaid iddi, sef dyogelwch bywyd ac eiddo. Cafodd y minteioedd yspeilgar ag oeddynt dan yr enw milwyr yn heidiau yn Gâl, naill ai eu dyfetha neu eu cydgorphori yn y byddinoedd rheolaidd. Bu dwy flynedd yn ddigonol i ddarostwng yr holl wlad Geltaidd dan ddeddf a llywyddiaeth Frutanaidd. Yna y fyddin Gymreig—Geltaidd a ymsymudodd dan arweiniad y ddau frawd tua'r Eidal. Ymunodd y Lliguriaid â hwynt, a'r mynediad cyntaf dros yr Alpau gan fyddin filwrol a gyflawnwyd yn ngwyneb yr hyn a ymddangosai yn anmhosibl. Mae y clod a gysylltiwyd âg enwau Hannibal a Napoleon yn perthyn mewn cyfiawnder i enwau y ddau gadffaenor Brutanaidd, Beli a Brân. Hwynt—hwy oeddynt yr anturwyr cyntaf, a'r rhai cyntaf hefyd a lwyddasant i fyned dros yr atalgloddiau eirllyd a adeiladodd natur megys o bwrpas i amddiffyn gwledydd heulog yr Eidal rhag cleddyf y Gogledd. Obarth nodweddiad y byddinoedd ag oeddynt ar fedr ail—sefydlu yr Ymherodraeth Gymreig yn yr Eidal, y mae genym hanesion bywiog wedi eu trosglwyddo i ni gan yr awduron clasurol. Dywed Plutarch, "Mae y Cimbri penaf, a mwyaf rhyfelgar, yn byw yn nghefnfor y Gogledd, yn eithafion y ddaear. Gelwir hwy yn Gimbri—nid oddiwrth eu moesau, ond enw eu cenedl ydyw. O barth eu gwroldeb, eu hyspryd, eu grym, a'u bywiogrwydd, nis gallwn eu cymharu i ddim ond i fflam ddifäol. Mathrent bawb a ddeuent o'u blaen, neu ymlidient hwy yn mlaen fel gyroedd o anifeiliaid.” Mae Justin yn cofnodi chwedl yn arddangos gyda pha ddiystyrwch y golygent gymeriad a gwyddor filwrol y Groegiaid. Ar ol darostwng y Tribaliaid a'r Gothiaid (Geta), cynygiodd y Celtiaid Cymroaidd eu cyngrheiriaeth i Antigonus, brenin Macedonia, fel gwystl o'u tuedd heddychlawn tuag ato ef. Ond triniodd Antigonus y cynygiad fel pe buasai wedi deilliaw o ofn neu gyfrwysdra. Gofynodd y Cymry i'w cenadwyr, ar eu dychweliad, "pa beth yw y Groegiaid hyn?" "Y maent yn nodedig am ddau beth," atebai y cenadwyr, "galwant sefyllfaoedd nad oes iddynt na chylch-ffosydd na rhagfuriau, yn wersylloedd; a thybiant os bydd ganddynt ddigon o aur, nad rhaid iddynt wrth ddur." Ysgubodd y fyddin Gymreig dros wastadedd Gogleddol yr Eidal yn dair dosran. Safodd yr Etruriaid yn wrol o blaid eu hymerodraeth, ond yn ofer. Wedi cael eu gorchfygu mewn pump o frwydrau, gwnaethant i'w poblogaeth gystlynaidd gilio tua'r deheu, gan roddi pob dinas, fel yr oeddynt yn eu gadael, ar dân. Adferwyd yr hên genedligrwydd Umbriaidd, gan i'r gwaredigion a'r gwaredwyr gael eu ffurfio yn un blaid gyngrheiriol, gyda'r un cyfreithiau ac iawnderau. Sonia Justin a Pliny am y dinasoedd canlynol fel wedi