cael eu sylfaenu gan Brân pan ymlidiwyd allan y Tuscaniaid,—sef, Milan, Como, Brescia, Verona, Burgamo, Mantua, Trent, a Vicentia. Dylid sylwi, fod goresgyniadau y Cymry bob amser yn ol egwyddorion gwareiddiad, ac nid dystrywiad. Pa le bynag yr ymsefydlent, yno cyhoeddent gyfartaledd cyfreithiau, codent demlau, llunient ffyrdd, adeiladent ddinasoedd, a diwyllient lenyddiaeth, yn enwedig barddoniaeth. Ar y llaw arall, yr oedd goresgyniadau yr Allmaenwyr a'r cenedloedd Gogleddol yn yr oesoedd tywyll, yn rhai barbaraidd a chroes i wareiddiad yn cael eu dwyn yn mlaen yn ol yr egwyddor o ddistrywiaeth ac nid ceidwadaeth a chyfuniad. O'r Celtiaid Cymroaidd perthynol i Gâl Gisalpaidd y deilliodd llawer o ysgrifenwyr cyntaf yr ymherodraeth Rufeinig—megys Livy, Pliny, Catullus, Virgil, &c., &c. Ar ol goresgyn Celtica Gisalpaidd, ymdeithiasai Beli gyda haner ei fyddin tua'r Gogledd lle y bu ar waith yn darostwng yr amrywiol dylwythau pa rai mewn oesoedd dilynol a adnabyddid gyda'u gilydd fel y bobl Allmaenaidd neu Deutonaidd. Dygodd y Rhufeiniaid dryfysg mawr i mewn i hanesyddiaeth drwy beidio a rhoddi i genedloedd eu henw llinachol, neu yr enw wrth ba un yr arferent alw eu hunain, eithr rhyw enwad oedd wedi ei gysylltu wrthynt oddiwrth rhyw nodwedd neu arferiad neillduol. Yr un ystyr sydd i'r gair German yn yr iaith Deutonaidd, ag sydd i'r gair Belgi yn y Gymraeg—sef, cadwyr, rhyfelwyr. Cymry ac nid Celtiaid oedd Belgiaid y Cyfandir. Disgynyddion oeddynt o'r Cymry a oresgynasant y wlad dan arweiniad Brân, ac yn amser Cæsar oeddynt yn meddianu un ran o dair o Gâl. O du y Dwyrain iddynt yr oedd y Teutoniaid (Tudeschi, Deutch), gwedi ymsefydlu. Darostyngwyd hwythau hefyd y pryd hyn gan Beli; a'r gyfran ffrwythlonaf o'u tiriogaeth o amgylch y wigfa Hercynaidd a ranwyd rhwng y fyddin Gymraeg—Geltaidd. Adnabyddid y Celtiaid Cymroaidd yn amser Caesar wrth yr enwad Volcæaid, a chadwent eu hen uchafiaeth mewn arfau a gwareiddiad ar y Teutoniaid amgylchynol. Brân gan sefydlu ei brif luest—dŷ yn Mediolanum (Meifod, Milan,) yn raddol a estynodd ei arfau tua'r Dehau. Yn mhlith dinasoedd eraill gwarchaeodd ar Clusium, sef dinas yn Etruria Isaf. Anfonodd y trigolion am gynorthwy i Rufain. Daeth tri o frodyr perthynol i'r genedl Ffabiaidd gyda'r ddirprwyaeth yn ol fel brein—genadwyr. Ar ol deisyf cael ymgyfarfod ac i hyny gael ei ganiatau, gofynwyd i Brân,"Pa niwed a wnaethai y Clusiaid iddo ?" Atebodd yntau, Mae gan Etruriaid hyn gymaint arall o dir ag a allant ei ddiwyllio—yr ydym ninau yn nerthol, yn lluosog, ac mewn eisiau tir, er hyny gomeddant ymadael ag un erw o'u tiriogaeth ddifudd." "Ond drwy ba hawl yr ydych yn arddelwi hyny?" gofynai y brein—genadwyr drachefn. "Drwy yr hawl hynaf o bob hawl," atebodd Brân, gyda gwên sarug, "sef, y ddeddf ag sydd yn rhedeg drwy holl natur, ac i'r hon y mae pob anifail yn ddarostyngedig—sef hawl y cryf ar y gwan. Yn ol y ddeddf hon y cafodd yr Etruriaid hyn, a chwithau Rufeiniaid, eich tiriogaethau ar y dechreu. Naill ai adferwch y tiriogaethau hyn i'w perchenogion cyntefig, neu ynte sefwch wrth y gyfraith yn erbyn eich hunain."
Dranoeth, blaenorodd Quintus Ambustus Fabius y Clusiaid mewn rhuthr—gyrch yn erbyn y gwarchaewyr. Lladdodd un o'r swyddogion Cymraeg, a thra yn ei yspeilio o'i arfau, canfyddwyd mai un o'r breingenadwyr Rhufeinig ydoedd. Yn mhlith y Cymry, yr oedd pob brein—genad yn cael ei ystyried yn ŵr cysegredig, ac megys y gwelsom,