Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaherddid iddo ef gario arfau ei hunan; yr oedd yn drosedd mawr i neb arall hyd yn oed ddynoethi cleddyf ger ei fron ef. Gan hyny yr oedd eu digofaint, oherwydd y troseddiad dyblyg yma o'r cyfreithiau cydrhwng cenedloedd, megis eu cydnabyddid yn eu plith eu hunain, yn enbyd dros ben. Brân, gan symud ei wersyll, a ddanfonodd genadwriaeth i Rufain, i orchymyn iddynt draddodi Quintus Fabius i fynu i'w ddwylaw ef. Cynghorodd y Feciales, neu goleg y Rhingyllwyr yn Rhufain, i'r senedd gydsynio a'i gais ef, gan ddangos erchylldra y weithred ag oedd yn taflu dianrhydedd ar yr holl genedl. Er hyny, y bobl (Plebs) nid yn unig a wrthwynebent yr anogiad, ond gwnaethant y tri brawd yn swyddogion milwrol, gan eu penodi yn flaenoriaid ar y fyddin. Gan hyny, Brân yn ddioed a roddodd y gair, " I Rufain. " "Ni wnaeth ei luoedd," medd Plutarch, "niwed i eiddo neb; ni anrheithiasant y maesydd, ac ni ddygasant unrhyw sarhâd ar y trefydd. Ar y 6ed o Fehefin, 363 A.U., 490 c.c., ymgyfarfyddodd y ddwy fyddin wrth y fan lle mae yr afonig Allia yn rhedeg i'r Tiber. Gorchfygwyd y Rhufeiniaid gyda lladdfa fawr; ac yn mhen tri diwrnod ar ol hyny, syrthiodd Rhufain ei hun, oddieithr y castell yn unig, i ddwylaw y gorchfygwr. Ystyrid cylchwyl brwydr Allia fel dydd du " yn nghalendar y Rhufeiniaid. Ni chyflawnid un gorchwyl arno, a phob dinesydd a wnelai ei ymddangosiad ar g'oedd, a wnai byny mewn galarwisg. Safodd y castell yn erbyn y warchäedigaeth am chwe ' mis. Yn y cyfamser, aeth Fabius Dorso yn ei wisg archoffeiriadol i'r Bryn Quirinal i offrwm yno yr aberth a arferid ar genedl - ddydd (dies gentilitia) ei deulu. Mae yr ysgrifenwyr Rhufeinig yn datgan eu syndod ei fod wedi cael ei oddef i wneuthur hyny, a dychwelyd mewn dyogelwch. Ond buasai y Cymry yn meddwl taraw eu brenin cyn gynted ag a fuasent yn meddwl dynoethi cleddyf yn erbyn offeiriad neu ben cenedl. Wrth wneuthur ffordd iddo fyned, a'i ddyogelu yn ol i'r castell, nid oeddynt ond cadw defodau Prydain. Gan i Brân mewn ail fuddugoliaeth orchfygu yr ymgais a wnaed gan y Porsena o Etruria i dori y warchäedigaeth, cytunodd y Rhufeiniaid i roddi mil o bwysau o aur yn bridwerth am ryddhâd y castell. Pan oedd yr aur yn cael ei bwyso yn mhresenoldeb y gwahanol gadbeniaid, tynodd Brân ei wregys a'i gleddyf a thaflodd bwynt i'r fantol arall. Pa beth yw ystyr y weithred na " gofynai y prif - swyddog Rhufufeinig. " Ei hystyr yw, " atebodd Brân, " gwae gwaethedigion, (va victis). " Goddefodd y Rhufeiniaid yr ateb dirmygus mewn dystawrwydd, Trosglwyddwyd yr aur i Narbonne yn Gâl. Yna Brân a gymerodd ei luoedd ymaith, ac yn fuau wedi hyny a wnaeth gyngrhair ymosodol ac amddiffynol gyda Deonysius o Sicily.

Ar ol goresgyniad yr Almaen, sylfaenodd Beli Aquillia, lle ar of hyny yr addolid of megys duw. Fel yr oedd yn dychwelyd adref drwy Gal, efe a ranodd ei thiriogaethau rhwng ei bum ' mab ieuengaf, gan gadw llywodraeth Prydain yn unig yn ei ddwylaw ei hun. Treuliodd y blynyddoedd diweddaf o'i deyrnasiad hir a gogoneddus yn y gwaith o wneuthur deddfau heddychlawn, ac o adeiladu gweithydd cyhoedd. Dechreuwyd a gorphenwyd castell Beli (Billing's gate), a cheulanau enfawr y Tafwys, dan deyrnasiad y penadur hwn. Efe a adeiladodd hefyd Gaerleon, neu fel y gelwid of ar y dechreu Caerwysg, ac a adgyweiriodd demlau Derwyddol Côr Gawr (Stonehenge), ac Ambri. Bu farw yn y 80ain mlwydd o'i oedran. Llosgwyd ei gorph a rhoddwyd ei ludw mewn llestr aur ar ben tŵr uchaf ei balas oedd yn ymyl yr afon