Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tafwys. Dyna'r hanes a ddyry Hanes y Cymru gan Morgan, am Beli ab Dyfnwal Moelmud, wedi ei sylfaenu yn benaf ar y Brutiau Cymreig.

BELI MAWR AB MANOGAN, yn ol y Brutiau Cymreig, a ddilynodd ei dad i deyrniaeth Ynys Prydain, a theyrnasodd ddeugain mlynedd. Dywed Trioedd ii., mai efe a ddiffoddes un o'r "Tair Gormes a ddaethant ar Ynys Prydain, ac y darfu am danynt," "y drydedd a fu yn amser Beli ab Manogan, a Bradgyfarfod ydoedd, ac efe a'i diffoddes." Yr oedd i Beli dri mab, sef, Lludd, yr hwn a olynodd ei dad i'r orsedd; yr enwog Caswallon; a Nynniaw.


BELI AB RHUN ab Maelgwn Gwynedd, a ddilynodd ei dad i freniniaeth Gogledd Cymru yn 586, ac a fu farw yn 599. Dilynwyd yntau gan ei fab Iago.


BELYN AB CYNFELYN. "Tair Gosgordd Addwyn Ynys Prydain; 1af, Belyn ab Cynfelyn; " Trioedd 79. Gelwid hwynt felly am mai gwirfoddolwyr oeddynt, yn gwasanaethu eu gwlad a'u teyrn mewn rhyfel ar eu traul eu hunain, heb aros eu gofyn, ac heb erchi na thâl nac anrheg gan wlad na chan deyrn. Gwasanaethai Belyn a'i wyr o tan Caradog ab Brân (Caractacus).


BELYN, o Leyn, teulu yr hwn, yn ol y Trioedd 27, oedd un o "Dri Hueilogion Ynys Prydain." Y ddau deulu eraill oeddynt teulu Caswallon Lawhir, a theulu Rhiwallon ab Urien; a gelwid hwynt felly am rwymo o honynt eu gilydd yn nghyd hefo llyffetheirian eu meirch, er mwyn gwrthsefyll yn rymusach ruthriadau Edwin Sais, yn mrwydr Bryn Ceneu yn Rhos, yr hon a gymerth le tua'r flwyddyn 620. Am hyn, caniatawyd iddynt wisgo eurdorchau, ac awdurdod, brenin a roddid i lynt o fewn eu terfynau eu hunain tan raith gwlad a chenedl.


BENLLI GAWR, oedd yn arglwydd talaeth helaeth, sy'n awr yn cynwys rhanau o siroedd presenol Fflint a Dinbych. Yr oedd yn byw oddeutu canol y bumed ganrif. Y mae amgylchiad cysylltiedig âg ef yn werth ei nodi. Darganfyddwyd hen wasgrwym aur yn lled ddiweddar ger y Wyddgrug, yn sir Fflint, o dan garnedd gerig, a elwid Bryn yr Ellyllon. Pan ddarfu i'r gweithwyr gloddio y bryneyn, daethant at ysgerbwd, penglog yr hwn o faint cawraidd, ac yr oedd esgyrn y morddwydydd yn eiddo dyn cryf anferth. Ar ei fynwes yr oedd y gwasgrwym, wedi ei oreuro drosto â dau neu dri chant o baderan amber ardderchog, yn cael eu croesi a math o waith ysnodenog o aur pur, rywbeth yn debyg ei ymddangosiad i'r onglau a ganfuwyd ar yr hen Fwa maen Sacsonaidd, a'r cwbl wedi ei weithio ar aur pur. Yr eithaf hŷd yw tair troedfedd a saith modfedd, a'i gwneud, tebygid, i amgylchynu o dan y breichiau a chyfarfod yn nghanol y cefn; a'i lled yn y blaen wyneb, lle y mae wedi ei cheuo i roi lle i'r gwddf, yn wyth modfedd. Y mae yn ddwy owns ar bymtheg o bwysan, ac yn werth oddeutu £60. Y mae yn awr yn nghadw yn yr Amgueddfa Frutanaidd. Y mae gan Dr. W. O. Pughe y sylwadau cywrain canlynol ar y matery ac y mae pob amgylchiad yn ymddangos fel yn cadarnhau y dyb mai Benlli Gawr a gladdwyd yno:— "Y mae yn debyg y rhaid fod y dyn hwn yn fyw wedi i'r Rhufeiniaid adael ein gwlad, neu fod yn debygol y buasai y corph yn cael ei losgi; a phe buasai yn byw oddeutu y flwyddyn 600, neu wedi hyny, y buasai wedi ei gladdu o fewn rhyw eglwys. O dan yr amgylchiadau hyn, nis gallwn fethu llawer wrth gyfrif tymhor bodoliaeth y dyn annghyffredin hwn i'r flwyddyn 500: ond eto, pwy a allai ef fod? Pwy a allasai fod y fath ddyn hynod ag y buasai ei bleidwyr yn codi y fath fryncyn o ddaear a cherig ar ei fedd