Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

AT FY NGHYDWLADWYR, Wrth derfynu y gwaith hwn, a'i gyflwyno i'ch nawdd ymgeleddgar chwi, goddefwch imi ymlawenhau ar gwblhad y "Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru" cyntaf a ymddangosodd yn ein hiaith. Tra y mae genym hanesiaeth mor hen, a'r fath doraeth o feibion athrylithgar yn ei britho, y mae yn syndod na chynysgyddasid y Cymro å rhestr ohonynt yn ei iaith ei hun cyn hyn. Gwir i'r llafurfawr a'r trylen Ddoethawr Owen Pugh, yn ei Cambrian Biography; ac i'r diwydbwyll a dysgedig Barch. R. Williams, o Langadwaladr, yn ei Eminent Welshmen, wneud cymwynas fawr â'n cenedl, trwy arbed enwau lluaws o'i Henwogion rhag llithro i ebargofiant, ond dylid cofio mai mewn estroniaith y cyflawnasant hwy eu gwasanaeth. Dewisasom ninaw siarad â'r wlad yn ei phriodiaith ei hun, a'r wlad sydd i benderfyna, trwy ei nawdd i'r gwaith, pa un a wnaethom yn ddoeth ai peidio. Fel yr oedd yr Eminent Welshmen yn helaethiad ar y Cambrian Biography felly y mae y llyfr hwn yn helaethiad ar yr Eminent Welshmen, ac yr ydym yn dymuno cydnabod yn ddiolchgar bob cymhorth a gawsom ynddo.

Dianmheu yr ystyria rhai ein bod wedi gadael allan rai bywgraffiadau a ddylasent fod i mewn, ac wedi dodi i mewn rai a ddylasent fod allan; tra y tybia eraill ein bod wedi talu gormod o sylw i rai, a rhy fach i eraill. Wrth y blaenaf dywedwn, mai tra anhawdd ydyw darnodi terfynau Enwogrwydd, ac y gorfodid ni i gyfarfod yr anhawsder heb gymhorth na deddf na rheol, ond cyfarwyddyd synwyr cyffredin noeth. Wrth yr olaf, nad yw pob bywyd unrhyw fywyd; arall yw y bywyd tawel, digyffro, ac anhynod ei amgylchiadau; ac arall yw y bywyd arwraidd, mewn oes a sefyllfa lawn o ddigwyddiadau dyddorol. Gall yr