Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enwog arwain y naill fywyd fel y llall; a dylid cofio nad yw hyd erthyglau y llyfr hwn yn unrhyw ddangoseg o syniad yr awdwr am deilyngdod eu gwrthddrychau.

Credwn nad oes odid lyfr hanesyddol ar Gymru, yn Nghymraeg na Saesneg, na bu o dan deyrnged i gyfoethogi dalenau y llyfr hwn, a chawsom dwysged o ddefnyddiau o hen ysgrif-lyfrau na welsant hyd yn hyn oleuni dydd.

Caffaeliad gwerthfawr ini ydoedd ysgrifau bywgraffiadol Gwilym Lleyn, yr hwn a dreuliodd ran fawr o oes ddiwyd i gynull a dodi ar gôf a chadw gofnodau o "Enwogion Annghofiedig Cymru;" ac yn mysg y rhai ddarfu ein cynysgacddu â bywgraffiadau, dylem enwi y Parch. R. Ellis (Cynddelw); y diweddar Glasynys; Parch. D. Silvan Evans; Parch. T. James (Llallawg), Netherthong; Creuddynfab; Parchn. J. Thomas, a N. Stephens, Liverpool; Parch. D. Saunders, Abercarn; Parch. Roger Edwards, Wyddgrug; Parch. John Foulkes, Rhuthyn, a lluaws eraill.

Gan mai at wasanaeth y genedl, ac er llanw bwlch yn ei llenyddiaeth, y cychwynwyd y Geirlyfr hwn, ac y gweithiwyd y cynllun allan i'w derfyniad, heb eiliw o ragfarn at na sect na phlaid grefyddol na gwleidyddol, dymunem ildo safle genedlaethol, a'r safon a haedda yn llyfrgell pob Cymro darllengar.

Y CYHOEDDWR.