Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enwogion Cymru.

AARON, Cofnodir yn ein hanesiaeth eglwysig, y Sant hwn fel un o'r rhai cyntaf a dderbyniodd goron merthyrdod yn Mhrydain. Ganwyd ef yn Nghaerlleon ar Wysg, lle pur nodedig pan oedd ein cyndadau o dan iau y Rhufeiniaid, ac yno, sef yn ei dref enedigol, y dyoddefodd of a Julius y poenydiau mwyaf arteithus a gwaradwyddus o herwydd eu ffydd yn Nghrist. Digwyddodd hyn yn amser erledigaeth greulon Diocletian, sef tua'r flwyddyn o Oed Crist 303. Nis gwyddis pa beth oedd ei enw cyn cael bedydd, a choelir mai cymeryd yr enw Aaron a wnaeth pan droes yn Gristion, oblegyd arfer gyffredin pobl yn y wlad hon oedd cymeryd enwau Hebreaidd, Groegaidd, neu Ladinaidd, ar adeg eu troedigaeth. Dywed amryw hon haneswyr fod eglwysydd heirdd wedi cael eu hadeiladu er coffhad am Aaron a Julius yn Nghaerlleon, a bod yn perthyn i'r naill urdd o Ganonau, ac i'r llall gor o Leianod. Y mae crybwylliad i'r perwyl yn Llyfr Llandaf, a dywed yr Esgob Godwin fod olion o'r eglwysydd hyn i'w gweled yn ei amser ef. Cedwid eu Gwylmabsant ar y cyntaf o Orphenaf. Dywedir hefyd fod eglwys Llanharan yn Morganwg wedi cael ei chyflwyno i Aaron Sant.

ABRAHAM. Pan roes yr Esgob Sulgen ei waith o'i law tua'r flwyddyn 1076, dilynwyd of yn ei swydd gan Abraham, fel esgob Mynwy neu Dy Ddewi. Yn mhen rhyw ddwy flynedd ar ol ei gysegriad bu ef farw, ac yn yr adeg hon, ebe Brut y Tywysogion,' y glaniodd y Daniaid yn Mhenfro, ac y llosgasant Dy Ddewi yn oddaith. Lladdwyd Abraham, medd Manby, gan y Daniaid yn 1078.


ACHLEN. Un o feibion Gwrthmwl Wledig, tywysog teyrnasol y Brutaniaid Gogleddol o ddechreuad i ganol y chweched ganrif, y rhai a ddaethant i Gymru pan gollasant eu tiriogaeth. Y mae cofnod am Achlen yn y Trioedd, (Myvyrian Archaiology, v. ii. p. 8, 10.) iddo gael ei gludo gyda'i frawd Avanad ar eu march a elwid Erch i ben bryn Maslawr yn Ngheredigion, neu Sir Aberteifi, i ddial marwolaeth eu tad.


ACHWR (ROBIN) o Wynedd, medd Lewis Dwnn, a ysgrifenodd am dair Talaeth Cymru; ac efe oedd gywyddwr a theuluwr da am hem gerdd.


ADDA FAWR. Penaeth un o bum costoglwyth Cymru; y lleill oeddynt Gwenwys o Bowys, Blaidd Rhudd, Heilyn, ac Alo