Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beth ydyw y peth hwnw, er ei fod y duaf o ran sylwedd, eto sydd yn goleuo y byd? Inc.

Gŵr synwyrol ger Bangor-yn-Arfon a roddodd waith i ddyn cryf ac iach i ddyrnu ŷd, ac ar ol ychydig ddyddiau fe'i trodd ymaith. Aeth gwraig y dyn at y meistr, a gofynai, "Pa beth a wnaeth fy ngŵr i chwi, Mr. Thomas?" "Ni wnaeth efe ddim i mi," meddai yntau. "Rhaid oedd iddo wneyd rhywbeth," meddai'r wraig, "onide ni fuasech yn ei droi ymaith." "Naddo, naddo," meddai'r meistr, " pe buasai yn gwneuthur rhywbeth, cawsai aros."

YR EOS.

Ochenaid leddf ei chân dlos—anadlir
Yn odlau yr Eos:
Gwae ei phigyn gaiff agos
Alw'r nef i lawr y nos.
Tudno.


TRAGYWYDDOLDEB.—O! dragywyddoldeb! pe byddai holl gyflawnder y ddaear a'r môr, wedi eu cyfnewid i dywod; a'r awyr hyd y ffurfafen ddim ond tywod, ac i aderyn bychan ddyfod unwaith mewn mil o flynyddoedd, a chludo ymaith y ddegfed ran o dywodyn o'r pentwr difesur hwn. O! y nifer anamgyffredadwy o flynyddoedd a dreulid ymaith cyn cludo y twmpath dirfawr hwnw o dywod i ffordd! Acer hyny, pe byddai yn y diwedd fodd i'r pechadur ddyfod o uffern, fe fyddai rhyw obaith; ond y gair yma, Tragywyddoldeb, sydd yn tori y galon. O! y dychryn ydyw hyn i'r annuwiolion, i feddwl cyhyd ag y byddo Duw yn dragywyddol, ei fod yn byw byth i ddial arnynt.—Watson.