Y dydd o'r blaen, mewn ysgol ddyddiol, gofynodd yr athraw i ddosbarth o fechgyn beth oedd y gwahaniaeth rhwng ynys a gorynys. Wedi gwasgu y cwestiwn heb lwyddo i gael atebiad boddhaol, dyma fachgen bychan yn gwaeddi, "Mi wn i, syr. Yn gyntaf, ceisiwch ddau wydryn; llenwch un â dwfr, a'r llall â llaeth. Yna deliwch wybedyn, a dodwch ef yn y dwfr. Mae y gwybedyn hwnw yn ynys, oherwydd y mae yn cael ei amgylchu â dwfr. Ond meddyliwch eich bod yn ei roddi yn y llaeth, yna fe fydd yn orynys, oherwydd y mae bron yn cael ei amgylchu â dwfr." Ni raid dyweyd fod y bachgen ar ben y dosbarth ar unwaith.
YR ENFYS.
Agoriad addysg i'r di—Dduw i wel'd
Anfeidroldeb Gwir—Dduw,
Yw'r Enfys dêr; neu fys Duw,
'N haner dolen, er diluw.
—Owen Gethin Jones.
GORSEDDFAINC Y GWEINIDOG.–Adroddir yn mywgraphiad y Parch. Dr. Leifchild, pan y byddai gweinidog yn achwyn wrtho oherwydd angharedigrwydd diaconiaid, y dywedai efe wrth y cyfryw, "Os gallwch chwi bregethu yn dda, chwi a ellwch feiddio y diaconiaid; ond os na ellwch bregethu yn dda, gall y diaconiaid eich beiddio chwi. Eich nerth mwyaf sydd yn gorwedd mewn dal y bobl; ac nis gellwch eu dal hwy yn hir ond trwy y pregethu a fyddo yn dda drwyadl. Gellwch ymweled â hwy, a chymeryd tê gyda hwy bob prydnawn, os mynwch; y mae hyny yn foddhaol mewn un ffordd; ond ofer fydd y cwbl os na theimlant hwy eich bod yn ŵr galluog yn y pwlpud. Y pwlpud yw gorseddfainc y gweinidog—yno y mae efe yn frenin!"