Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MILLDIROEDD GWAHANOL WLEDYDD.—Nid oes ond ychydig o bethau a chymaint o amrywiaeth ynddynt ag sydd yn y mesur hwn; a hyny nid yn unig mewn gwahanol wledydd, ond hefyd mewn gwahanol daleithiau o'r un wlad. Yn ol cyfrifiad Dr. Halley, cydmerir hwynt â'r filldir Seisnig fel y canlyn:—Y filldir gyfreithlon Seisnig a gynwysa 5280 troedfedd, neu 1760 llathen. Y vorst Rwsiaidd sydd ychydig yn ychwaneg na 34 milldir Seisnig. Y filldir Dyrcaidd, yr Eidalaidd, a'r Rufeinig, ychydig yn llai na'r un Seisnig. Y filldir Arabaidd yn nghylch 114 Seisnig. Yr Albanaidd, a'r Wyddelig, yn nghylch 11⁄2 Seisnig. Yr Indiaidd, yn agos i 3 Seisnig. Milldir yr Is—Ellmyn, yr Yspaeniaid, a'r Pwyliaid, sydd yn nghylch 32 Seisnig. Yr Almaenaidd sydd fwy na 4 Seisnig. Y Swedaidd, y Danaidd, a'r Hungaraidd, o 5 i6 Seisnig. Y Ffrengig, yr hon a eilw y Ffrancod league, yn agos i 3 Seisnig. League forawl y Saeson sydd 3 milldir Seisnig.

ARFERION IUDDEWIG.—Oddiwrth yr hyn a ddarllenwn yn y Beibl, y mae yn amlwg fod ymborth yr Iuddewon yn wael a garw iawn. Yr oedd yn benaf yn fara, llaeth, mêl, reis, a llysiau. Dywedir fod Ioan Fedyddiwr yn ymborthi ar locustiaid a mêl gwyllt. Darlunir gwlad Canaan fel yn llifo o laeth a mêl; ac y mae yr Arabiaid eto yn ystyried y rhai hyn yn ddanteithion. Anaml yr oedd gan yr Iuddewon gig, oddieithr ar eu haberthau a'u gwyliau pwysig. Gan nad oeddynt yn fynych yn bwyta cig, ymddengys eu bod yn ei ystyried yn flysfwyd. Cawl ffacbys Jacob, yr hwn a achlysurodd Esau i werthu ei enedigaeth—fraint, sydd yn dangos mor wael oedd bwyd y patriarchiaid;