Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DELW A DYN.—Gŵr ieuanc o Ysgotiad o'r wlad, pan wedi dyfod ar ymweliad i ddinas Edinburgh, wedi clywed am arddangosiad delwau cŵyr o ddynion hynod, a benderfynodd fyned i'w gweled; ac yno wrth y drws enynwyd ei gydymdeimlad gan yr olwg ar hen ŵr cloff truanaidd oedd yn sefyll ar ddwy fagl. Mewn tosturi ato, efe a estynodd iddo geiniog; ond yr oedd yn synu wrth weled nad oedd y dyn yn ymddangos am ei chymeryd. "Hwdiwch, druan," medd efe, "dyma geiniog i chwi;" ond nid oedd y llall yn rhoi un ateb; ac nid nes i rai ereill oedd yn myned i mewn dori i chwerthin y deallodd efe mai dyn cŵyr oedd yr hwn nad estynai ei law at y geiniog. Wedi myned i mewn i'r arddangosfa, efe a benderfynodd na chymerai ei dwyllo drachefn, ac aeth i fyny ac i lawr gan graffu ar y lluaws delwau, pan y denwyd ei sylw gan un neillduol yn nghanol y lleill oedd â'i lygad gwydraidd yn ymddangos yn syllu yn fywiog ar ryw wrthddrych yn y pen pellaf i'r ystafell. Efe a drodd o gwmpas y fath ddelw gampus o ddyn, gan grâff edrych arno o'i ben i'w draed, ac nis gallodd ymatal heb roddi ei law ar ei ysgwydd ac ar hyd ei fraich, gan ddywedyd wrth edrychydd arall a ddaethai hyd ato y munyd hwnw, "Wel, rhyfedd iawn wr! onid yw hwn yn naturiol? ni feddyliais erioed y gallesid gwneyd cŵyr mor debyg i ddyn byw!" a chan edrych i lygaid y ddelw, fel y tebygasai efe, mawr oedd ei syndod a'i fraw wrth weled y cyfryw ddelw o ddyn yn estyn ei ben ato, ac yn uchel chwerthin allan. Rhedodd ymaith yn ddioedi gan ddywedyd, "Yr wyf yn methu cael gwahaniaeth yn y marw ar y byw, nac yn y byw ar y marw."