Y mae balchder fel codymydd medrus, yn rhoddi codiad i fyny i'r dyn cyn ei dynu ef i lawr.
CHWEDL HEBREAIDD.—Dygwyd Abraham gerbron Nimrod y gormesdeyrn, yr hwn a'i hanogodd ef i addoli y tân. "O, frenin mawr," ebai tad y ffyddloniaid, "onid gwell fyddai addoli y dwfr? Galluocach ydyw na'r tân, oherwydd fod ganddo nerth i'w ddiffoddi." "Addola y dwfr, ynte," ebai Nimrod. "Meddyliwyf," atebai Abraham, y byddai yn fwy rhesymol addoli y cymylau, gan mai hwynthwy sydd yn cludo y dyfroedd, ac yn eu bwrw i lawr ar y ddaear." "Wel, ynte," ebai y brenin, wedi haner digio, "addola y cymylau, gan dy fod yn cyfaddef fod ganddynt fwy o allu." "Nage," atebai Abraham drachefn, "os gallu sydd i fod yn wrthddrych addoliad, fe ddylid yn hytrach addoli y gwynt, yr hwn trwy ei allu mawr a wasgara y cymylau, ac a'u gyr hwynt o'i flaen." "Mia welaf," ebai Nimrod, na chawn ni byth ddiwedd ar yr ofer—siarad yma. Addola y gwynt, ynte, ac ni a faddeuwn i ti y geiriau a ddywedaist o'r blaen." "Na ddigia wrthyf, O frenin mawr," meddai Abraham, "nis gallaf addoli y tân, na'r dwfr, na'r cymylau, na'r gwynt, na'r un o'r pethau yr wyt ti yn eu galw yn dduwiau. Gallu y rhai hyny sydd yn deilliaw oddiwrth Fôd anfeidrol alluog, llawn trugaredd a chariad, Creawdwr nef a daear. Ef yn unig a addolaf fi." "Wel, ynte," meddai y gormesdeyrn, "gan dy fod yn nacau addoli y tân, fe wneir i ti yn fuan deimlo ei nerth mawr." Efe a orchymynodd daflu Abraham i ffwrn dân. Eithr Duw a'i gwaredodd rhag angerdd y fflamau, ac a'i gwnaeth ef yn fendith i lawer o genhedloedd.—Ieuan Ardudwy.