Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYFRIF-LYFR MARSIANDWYR.—Yr oedd yn arferiad gan y marsiandwyr gynt i gael "Laus Deo," neu, Moliant i Dduw, yn ysgrifenedig mewn llythyrenau mawrion ac amlwg ar ben pob tudalen o'u cyfrif—lyfrau (ledgers), fel y rhoid ar ddeall iddynt bob amser, yn eu holl fasnach, y dylai fod ganddynt amcan duwiol i ogoneddu Duw.Idrisyn.

DYSTAWRWYDD.

O! Ddystawrwydd! ystyriol—dawelwch
Hudolus, myfyriol,
Ister bedd—lle pob stwr baid—
Dyma d'enaid mudanol!
Fferyllfardd.


GWIR WYBODAETH YN OSTYNGEIDDIOL.—Ysgolheigion ieuainc yw y rhai mwyaf hunandybus. Byddai Duarenus yn arfer dywedyd am y rhai a ddeuent i'r brifysgol, eu bod yn y flwyddyn gyntaf yn ddoctoriaid yn eu tyb eu hunain; yn yr ail flwyddyn nid oeddynt ond yn y gradd dechreu, ac yn y drydedd yr oeddynt yn teimlo fel plant gyda'r llyfrau bach cyntaf. Socrates, yr hwn oedd y dyn mwyaf gwybodus yn ei oes, oedd yn ymdeimlo nad ydoedd efe yn gwybod dim; oherwydd po fwyaf a wypo dyn, mwyaf y gwêl ei anwybodaeth, fod y pethau y mae efe yn anwybodus ohonynt yn llawer amlach na'r pethau y mae ei ddeall yn dechreu gafaelu ynddynt. Fel hyn y mae gyda'r Cristion: mae efe yn deimladol fod yr hyn a ŵyr efe am Dduw a Christ yn annhraethol lai na'r hyn sydd eto heb ei wybod ganddo. Po fwyaf a ganfyddo dyn ar Dduw, lleiaf y syrth efe yn ei olwg ei hun.—Charnock.