BARN PAGAN AM RYFEL.—A ganlyn sydd ddyfyniad o araeth Brenin Ovahoo, un o ynysoedd Tonga, yn Môr y Dehau, a draddodwyd ganddo i fawrion ei lys ar ei ddyfodiad i'r orsedd:—"Gwrandewch arnaf, Flaenoriaid a Chadbeniaid! Os oes neb yn eich plith yn anfoddlon i agwedd bresenol pethau, yn awr yw yr amser i fyned i Hopai; oblegid ni chaiff neb aros yn Vavaso gyda meddwl anfoddlon, a thuedd i grwydro i leoedd ereill. Yr wyf wedi gweled gyda gofid y dinystr helaeth a achoswyd gan y rhyfel parhaus a ddygwyd yn mlaen gan y brenin o'r blaen, yr hwn yn awr sydd yn gorwedd yn ei fedd. A pheth ydyw y canlyniad? Mae y wlad wedi ei diboblogi, yn orchuddiedig gan chwyn a llysiau drwg, ac nid oes genym ddynion i'w gwrteithio. Mae y penaf o'n gwroniaid a'n rhyfelwyr wedi eu cwympo trwy ryfel, a rhaid i ninau wneyd ein goreu gyda'r gwehilion. Y fath ynfydrwydd! Onid yw ein hoes yn rhy fer yn barod? Oni wnelem well defnydd o'n hamser pe yr ymdrechem gynyddu llwyddiant a dedwyddwch ein gilydd? Y fath ffolineb, gan hyny, yw rhyfela i fyrhau yr hyn sydd eisoes yn rhy fyr. Pwy yn ein mysg all godi i fyny a dyweyd, 'Mi a ddymunwn farw, yr wyf wedi blino ar fy mywyd'? Onid oeddym, gan hyny, wedi actio fel rhai heb ddeall? Onid ydym wedi bod yn cofleidio y peth sydd yn ein hamddifadu o'r unig beth a chwenychwn ei feddu? Bydded i ni, gan hyny, ymroddi i wrteithio ein gwlad ein hunain; oblegid, gan ei bod yn fwy na digon i'n cynal ni oll, paham yr awn i ryfela am ychwaneg?"—Onid dymunol fyddai i'r pagan hwn ddyfod drosodd ar gyhoeddiad trwy Ewrop y dyddiau hyn i draddodi araeth i glywedigaeth ei phenaduriaid goleuedig?