Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid ydym byth yn nes at Grist na phan y byddom yn ymgolli mewn syndod sanctaidd wrth feddwl am ei gariad annhraethadwy.—Dr. Owen.

Y mae yr hunan gyfiawn yn gwau gwe o'u hymysgaroedd eu hunain, yr hyn a brawf yn we y pryf copyn iddynt yn y diwedd. — W. Romaine.

THOMAS HOOD A'R YSTUMOG. I ddangos ei bleser mewn llyfrau, pan waharddai y meddyg fwydydd iddo, dywedai, "Mae pob cigfwyd, o ŷch hyd wningen, yn cael eu gwahardd, a phob diodydd cryfach na'r gwlybwr sydd yn darostwng llwch ac yn golchi pinafores. Ond y mae gwledd rheswm, a dyfroedd meddwl, yn rhydd i mi eto. Os gwaherddir beef i mi, y mae genyf Bulwer a Cowper; os gwaherddir mutton i mi, mae Lamb genyf; ac yn lle pork, mae genyf Bacon a Hogg. Am ddiod, y mae yn galed i Gristion osod ei wyneb fel Twrc yn erbyn sudd y grawnwin; ond os na chaf win, mae Butler genyf; ac os gwrthodir gwirod, mae ysbrydion dewisedig Tom Browne a Tom Moore genyf."

DUW, MOMENT, TRAGYWYDDOLDEB.—Dywed teithiwr i'w sylw gael ei dynu, mewn gwesty yn Savoy, at ddalen fawr oedd ar y mur, a deallodd fod y cyffelyb ddalen yn hongian ar furiau pob tŷ yn y plwyf. Dyma y geiriau oedd mewn llythyrenau breision ar y ddalen:—"Duw—Moment—Tragywyddoldeb: Duw, sydd yn dy weled—moment, sydd yn dianc oddiarnat—tragywyddoldeb, sydd yn dy aros; Duw, yr hwn wyt yn ei wasanaethu mor wael; moment, yr hon wyt yn ddefnyddio mor ddibwrpas; a thragywyddoldeb, yr wyt yn mentro iddo mor anystyriol."